Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 19 Chwefror 2019.
Llywydd, mae fel cyrraedd bydysawd cyfochrog i gael cwestiynau gan y blaid sy'n croesawu Tommy Robinson a'r credo y mae'n barod i'w hyrwyddo, ac yna sy'n gofyn i bleidiau eraill esbonio eu hunain. Gadewch i mi fod yn eglur, Llywydd: does dim lle o gwbl yn fy mhlaid i nac yn unrhyw le arall yng Nghymru ar gyfer rhagfarn yn erbyn pobl o hiliau neu grefyddau eraill. Ac nid yw hynny'n cynnwys y rhai y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw heddiw yn unig, ond at bob un arall y mae ef, yn y gorffennol, wedi bod yn barod i ymosod arnynt yn y swydd y mae ynddi erbyn hyn.