Gwella Gwasanaethau Rheilffyrdd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 19 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r broses WelTAG, Llywydd, yn broses deg. Fel y dywed yr Aelod, mae'n broses tri cham lle caiff cynigion ar gyfer mentrau newydd eu profi drwy'r gwahanol gamau. Mae arfarniad gorsaf Carno yn dod tuag at ddiwedd cam 2. Mae ein gallu i fwrw ymlaen â chynigion yng ngham 3 yn dibynnu ar fod gennym yr adnoddau er mwyn gwneud hynny, ac mae, fel ag erioed yn y maes hwn—fel y lleill yr ydym wedi eu trafod y prynhawn yma—lleoedd lle yr hoffem ni allu gwneud mwy a lle y byddem ni'n gwneud mwy, os daw'r cyllid i Gymru i'n galluogi i wneud hynny.