1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Chwefror 2019.
4. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i wella gwasanaethau rheilffyrdd Cymru dros y pum mlynedd nesaf? OAQ53445
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd rheilffyrdd Cymru yn gweld gwasanaethau gwell ac ychwanegol, a gwell trenau, gwaith uwchraddio eang i orsafoedd, gwelliannau i wasanaeth tocynnau a gwybodaeth a mwy o gyfleusterau parcio a chyfnewid i deithwyr.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi torri addewid i drydaneiddio prif reilffordd y de i Abertawe ac sydd wedi darparu 1 y cant pitw o gyllid seilwaith rheilffyrdd y DU i Gymru, mae Llafur Cymru wedi buddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf pa welliannau y gall teithwyr ddisgwyl eu gweld yn ystod y ddwy flynedd nesaf?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am y gwaith, wrth gwrs, a wnaeth i sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa i wneud y gwelliannau hyn yma yng Nghymru. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cerbydau ychwanegol. Yn ystod y flwyddyn hon, bydd y trenau ychwanegol hynny yn cael eu defnyddio i leddfu gorlenwi ac i gyflwyno gwasanaethau newydd. Bydd hynny'n rhagflaenu trenau newydd y byddwn yn eu cyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn gweithredu i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau ffisegol yn ein gorsafoedd yn gwella yn y flwyddyn galendr hon trwy raglen well o lanhau dwys sydd ar waith ledled Cymru. O fis Rhagfyr eleni, bydd cynnydd o 22 y cant i filltiroedd ar y Sul a gwasanaethau ychwanegol i deithwyr ar y diwrnodau hynny. Bydd gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod teithwyr yn fwy gwybodus am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Rydym ni'n ymdrin â threfn docynnau newydd a fydd yn creu 3,000 o docynnau ymlaen llaw newydd i leihau'r gost o fynd ar deithiau hirbell. Dim ond rhai o'r pethau y byddwn ni'n eu gwneud yma yng Nghymru yw'r rhain i wneud yn siŵr bod gan bobl yng Nghymru wasanaeth y maen nhw'n ei haeddu ac y byddan nhw'n falch ohono i'r dyfodol.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod trigolion Carno wedi bod yn ymgyrchu dros gael gorsaf newydd yng Ngharno ers blynyddoedd lawer. Maen nhw wedi bod yn rhwystredig bod y broses arfarnu cam 2 yn ymddangos fel ei fod wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl, ond rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones, a ofynnodd gwestiwn i'ch cyd-Aelod yr wythnos diwethaf, i wybod bod y broses cam 2 honno wir yn dod i ben a bod cam 3 ar fin dechrau. Nawr, rwyf yn deall bod ymrwymiad eisoes i fwrw ymlaen â dwy orsaf newydd yn y gogledd, yng Nglannau Dyfrdwy ac yn Wrecsam, ond a allwch chi gadarnhau sut y mae hynny'n cyd-fynd â'r broses dri cham hon pan nad yw'r trydydd cam wedi dechrau eto? A allwch chi gadarnhau bod proses werthuso Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gorsaf newydd yn broses deg?
Wel, mae'r broses WelTAG, Llywydd, yn broses deg. Fel y dywed yr Aelod, mae'n broses tri cham lle caiff cynigion ar gyfer mentrau newydd eu profi drwy'r gwahanol gamau. Mae arfarniad gorsaf Carno yn dod tuag at ddiwedd cam 2. Mae ein gallu i fwrw ymlaen â chynigion yng ngham 3 yn dibynnu ar fod gennym yr adnoddau er mwyn gwneud hynny, ac mae, fel ag erioed yn y maes hwn—fel y lleill yr ydym wedi eu trafod y prynhawn yma—lleoedd lle yr hoffem ni allu gwneud mwy a lle y byddem ni'n gwneud mwy, os daw'r cyllid i Gymru i'n galluogi i wneud hynny.
Ar fy siwrnai bump awr o Fangor i Gaerdydd neithiwr, roeddwn i'n edrych ar fap o rwydwaith rheilffordd Cymru, ac roedd yn fy atgoffa nad rhwydwaith wedi'i greu ar gyfer Cymru ydy hwn mewn difrif. Mae angen buddsoddi mewn ehangu'r rhwydwaith, wrth gwrs, er mwyn cysylltu Cymru. Mae angen buddsoddi ar holl arfordir gorllewinol Cymru. Ond mae buddsoddi mewn ehangu'r rheilffordd yn costio llawer o arian, wrth gwrs. Mae angen meddwl yn ofalus am y buddsoddiadau hynny. Ond mae yna un buddsoddiad y gallen ni ei wneud ar unwaith, un cymharol fach, er mwyn ehangu'r rhwydwaith, a hynny ydy ailagor y rheilffordd sydd yno'n barod rhwng Gaerwen ac Amlwch yng ngogledd Ynys Môn. A ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi y dylid symud ymlaen efo hynny ar fyrder rŵan, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau economaidd anodd sy'n wynebu'r rhan yna o Ynys Môn?
Wel, diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Dwi'n gallu cadarnhau bod yr enghraifft y mae wedi cyfeirio ati—mae honna'n rhan o'r rhaglen rŷn ni'n gweithio arni ar hyn o bryd. Yn gyffredinol, wrth gwrs, beth mae Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud yn wir. Dydy'r system sydd gyda ni ar hyn o bryd ddim yn un rŷn ni wedi ei dyfeisio ar gyfer yr anghenion sydd gyda ni yng Nghymru. Ond, nawr, gyda rhai o'r cyfrifoldebau sydd yn ein dwylo ni, rŷn ni'n gallu gwneud mwy i baratoi am anghenion y dyfodol.