Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi torri addewid i drydaneiddio prif reilffordd y de i Abertawe ac sydd wedi darparu 1 y cant pitw o gyllid seilwaith rheilffyrdd y DU i Gymru, mae Llafur Cymru wedi buddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf pa welliannau y gall teithwyr ddisgwyl eu gweld yn ystod y ddwy flynedd nesaf?