Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:04, 19 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Iawn. Diolch, Prif Weinidog, am yr ymrwymiad yna. Nid wyf i'n siŵr bod y Blaid Lafur yn debygol o fod yn gyfrwng effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem benodol o wrth-Semitiaeth, fodd bynnag. Ddoe, gwelsom fod saith o ASau Llafur yn teimlo y dylent adael y Blaid Lafur. Un o'r rhesymau a nodwyd ganddyn nhw yw'r achosion cynyddol o wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur. Yn wir, dywedodd un ohonyn nhw fod y Blaid Lafur bellach yn sefydliadol wrth-Semitaidd. Nawr, cawsom ddatganiad Llywodraeth Cymru ar hyn 18 mis yn ôl, a gyfeiriodd at hyfforddiant i swyddogion i'w gwneud yn fwy ymwybodol o wrth-Semitiaeth a gweithio gyda Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i nodi achosion o hyn. O ystyried ei bod yn ymddangos bod y broblem yn cynyddu, a oes angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy erbyn hyn?