Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 19 Chwefror 2019.
Wel, wrth gwrs, fel y dywedwch, Darren Millar, mae'r grwpiau ffydd yn cyflawni swyddogaeth bwysig iawn yn eu cymunedau drwy wirfoddolwyr, drwy grwpiau eglwysi, ac rydym yn gwybod, er enghraifft, y caiff llawer o'n banciau bwyd eu rhedeg gan, a chyda, eglwysi a chapeli ledled Cymru. Ac rydym yn gwybod, wrth gwrs, hefyd fod gan y Gymdeithas Lles Mwslimaidd ran hefyd o ran y math hwnnw o weithgarwch gwirfoddol. Mae'n bwysig iawn, drwy ein fforwm rhyng-ffydd a'r gwaith a wnawn i gefnogi'r trydydd sector, ein bod yn edrych yn ofalus ar yr anghenion hynny, sydd, wrth gwrs, yn cael eu gwella, hefyd, gan gynlluniau grant eraill fel Deddf Eglwys Cymru 1914, fel, hefyd, y ffaith y gallan nhw gael gafael ar gyllid trydydd sector, nid yn unig yn lleol, ond ar sail Cymru gyfan hefyd.