Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 19 Chwefror 2019.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol? OAQ53472
Mae sector gwirfoddol cryf ac annibynnol yn hanfodol i les Cymru a'n cymunedau. Mae perthynas gynaliadwy â'r sector gwirfoddol drwy ein cynllun trydydd sector a'n grant trydydd sector Cymorth Cymru yn darparu'r seilwaith y gall y sector ffynnu arno.
Diolch. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i groesawu'r Dirprwy Weinidog i'w swydd. Rwy'n siŵr y bydd hi'n dod i arfer yn gyflym iawn. [Chwerthin.] Ond at fy nghwestiwn: mae llawer o grwpiau gwirfoddol yn fy etholaeth i, bron gormod i sôn amdanyn nhw, ond rwyf am sôn am dri. Un yw Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned, sydd bellach yn fenter gymdeithasol ffyniannus—canolbwynt yn y gymuned. Ysbyty oedd ef yn wreiddiol, mewn gwirionedd, lle cefais i fy ngeni ac mae wedi'i weddnewid gan wirfoddolwyr. Grŵp Treftadaeth Cwm Aber—maen nhw'n allweddol o ran sefydlu Cofeb Lofaol Genedlaethol Cymru yn Senghennydd. Dyna'r safle lle digwyddodd trychineb lofaol waethaf Cymru ym 1913. A hefyd y Ganolfan Galw Heibio ar gyfer Pobl Ifanc yn Senghennydd, neu SYDIC, sy'n cysylltu pobl ifanc â'r gymuned leol ac sy'n datblygu ymdeimlad o gydlyniant yno—hynod bwysig yn Senghennydd. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymrwymo i gymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiectau hyn a phrosiectau tebyg?
Wel, a gaf i ddiolch i Hefin David am ei eiriau caredig a'i gwestiwn? Rydych chi wedi tynnu sylw at waith sefydliadau lleol sydd wedi'u gwreiddio yn nhreftadaeth a hanes eich cymuned. Wrth gwrs, maen nhw hefyd yn cefnogi anghenion cymdeithasol ac yn gwella lles. Felly, a gaf i ddweud, mewn ymateb i'r cwestiwn, fod gwirfoddoli, wrth gwrs, yn parhau i fod wrth wraidd cymunedau ledled Cymru a bod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi gwirfoddoli fel mynegiant pwysig o ddinasyddiaeth ac yn elfen ganolog o ddemocratiaeth, ac rydym ni'n darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, wrth gwrs, yn ogystal â'r cynghorau gwirfoddol sirol hynny ledled Cymru i ddarparu cymorth trydydd sector.
Hoffwn innau hefyd groesawu'r Dirprwy Weinidog i'w swyddogaeth. Roeddwn yn falch o weld bod yr elusen o Lanelli Threshold DAS, a arferai gael ei alw'n Cymorth i Fenywod Llanelli, wedi cael grant o £1.5 miliwn i ddarparu rhaglen ledled Cymru a fydd yn cynnig cymorth i fenywod a merched sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin a thrais domestig. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau trais domestig a rhywiol yn arbennig yw drwy grwpiau trydydd sector lleol, wedi'u harwain gan y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain? A pha gamau y gall y Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru eu cymryd i wrthdroi'r duedd o golli llawer o'r gwasanaethau hynny drwy brosesau tendro i gwmnïau mawr, rhyngwladol nad ydyn nhw'n deall o gwbl y cymunedau y maen nhw i fod i'w gwasanaethu, heb sôn am y dioddefwyr y maen nhw i fod i'w cynorthwyo?
Diolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n cydnabod hefyd fod gwasanaethau, o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, wrth gwrs, wedi dechrau yn y trydydd sector—wedi dechrau gyda Cymorth i Fenywod Cymru, a sefydlwyd Cymorth i Fenywod Caerdydd gan fenywod yn eu cymuned leol. A'r hyn sy'n bwysig hefyd, wrth gwrs, o ran gwasanaethau cam-drin domestig, yw'r symudiad cryf tuag at alluogi goroeswyr i helpu i lunio'r gwasanaethau sydd mor bwysig ac, wrth gwrs, ein helpu ni i lunio ein hymateb a'n camau gweithredu rhagweithiol o ran cyflawni Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthyf pa gymorth yr ydych chi'n ei roi i gymunedau ffydd i gefnogi eu hymgysylltiadau sector gwirfoddol? Byddwch yn ymwybodol o ddarn o waith ymchwil a gwblhawyd y llynedd i effaith enwadau pentecostaidd Cymru—y tri prif enwad pentecostaidd Cynulliadau Duw, Elim a'r Eglwys Apostolaidd—ac mae'r ymchwil hwnnw wedi canfod bod dros 2,700 o wirfoddolwyr yn cyfrannu gwerth 5,000 awr o waith gwirfoddol bob wythnos yn y tri enwad hynny yn unig, sy'n cyfrannu mwy na £3 miliwn i economi Cymru wrth wneud hynny. Mae hwnnw'n waith gwirfoddol nad yw'n hunanwasanaethu'r sefydliadau penodol hynny ond mewn gwirionedd sy'n gwasanaethu eu cymunedau. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n dymuno inni ddathlu hynny, ond pa waith ydych chi'n ei wneud i ymgysylltu â'r sector ffydd yn fwy eang er mwyn hybu'r math hwn o waith fel y gallwn gael mwy o werth ohono?
Wel, wrth gwrs, fel y dywedwch, Darren Millar, mae'r grwpiau ffydd yn cyflawni swyddogaeth bwysig iawn yn eu cymunedau drwy wirfoddolwyr, drwy grwpiau eglwysi, ac rydym yn gwybod, er enghraifft, y caiff llawer o'n banciau bwyd eu rhedeg gan, a chyda, eglwysi a chapeli ledled Cymru. Ac rydym yn gwybod, wrth gwrs, hefyd fod gan y Gymdeithas Lles Mwslimaidd ran hefyd o ran y math hwnnw o weithgarwch gwirfoddol. Mae'n bwysig iawn, drwy ein fforwm rhyng-ffydd a'r gwaith a wnawn i gefnogi'r trydydd sector, ein bod yn edrych yn ofalus ar yr anghenion hynny, sydd, wrth gwrs, yn cael eu gwella, hefyd, gan gynlluniau grant eraill fel Deddf Eglwys Cymru 1914, fel, hefyd, y ffaith y gallan nhw gael gafael ar gyllid trydydd sector, nid yn unig yn lleol, ond ar sail Cymru gyfan hefyd.