Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 19 Chwefror 2019.
Nid wyf yn credu y gall y cynnig gofal plant, ynddo'i hun, egluro'r gwahaniaeth yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau rhwng gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru. Ar un pen y sbectrwm, mae gennym ni Ynys Môn, â bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 25.5 y cant ymhlith trigolion yn ei dalgylch yn y fan honno, ac yn agos iawn wedyn mae Bro Morgannwg, eich etholaeth chi—23.4 y cant. Ond ar ben arall y raddfa, mae gennym ni Gwynedd â bwlch o -0.2, a Chonwy â bwlch o -8.7. Beth fyddwch chi'n ei ofyn i Weinidog yr economi ei ystyried pan fydd yn penderfynu ar y cymorth a roddir i wahanol fathau o fusnesau, a allai helpu i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn?