Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 19 Chwefror 2019.
2. Pa drafodaethau mae’r Dirprwy Weinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith economaidd anghydraddoldeb yn sgil adroddiad Chwarae Teg, Cyflwr y Genedl 2019? OAQ53473
Diolch yn fawr. Dwi’n cwrdd â’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ar 6 Mawrth i drafod yr adolygiad gydraddoldeb rhywedd. Bydd gan y cynllun cyflogadwyedd, y contract economaidd a’r Comisiwn Gwaith Teg i gyd rôl bwysig wrth daclo’r diffyg cydraddoldeb y mae adroddiad Chwarae Teg yn sôn amdano.
Diolch yn fawr, a llongyfarchiadau mawr ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y Siambr. Un her allweddol fydd cefnogi mwy o ferched i weithio, ond, wrth gwrs, mae gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr. Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol na dynion o sôn am ofalu am y teulu neu’r cartref fel rheswm dros beidio â gweithio. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y cynnig gofal plant newydd ar gyflogaeth rhieni? Ac a fydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i newid y meini prawf cymhwysedd os bydd y gwerthuso yn dangos bod angen newid?
Wel, diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rwy’n credu bod yr adroddiad 'Cyflwr y Genedl 2019' gan Chwarae Teg wedi bod yn werthfawr iawn gan iddo ystyried menywod yn yr economi, cynrychiolaeth menywod, a menywod mewn perygl, ac, fel y dywedwch chi, dangosodd yr ystadegau o'r adroddiad yn glir iawn bod menywod yn fwy tebygol o fod yn anweithgar yn economaidd oherwydd eu bod yn gofalu am y teulu a'r cartref. Ac mae'n amlwg bod angen i ni ystyried hyn, fel yr ydym ni yn ein cynnig gofal plant.
Nawr, mae'r cynnig gofal plant ar hyn o bryd, fel y gwyddoch chi, yn cynnwys o leiaf 10 awr o ddarpariaeth feithrin y cyfnod sylfaen, hyd at 20 awr o ofal plant gyda darparwr cofrestredig, ac mae'r grant cyfalaf sydd yn cael ei roi ar gael bellach i sicrhau bod digon o leoedd gofal plant o ansawdd da ar gael i alluogi'r holl blant sy'n gymwys i fanteisio ar y ddarpariaeth i'w groesawu'n fawr. Ond, wrth gwrs, mae gwerthuso yn hollbwysig, fel y dywedwch chi, o ran gweithredu cynnar—mae llawer o ganfyddiadau cadarnhaol o hynny—ond hefyd wrth ystyried ffyrdd y gallwn ni gefnogi nid yn unig rhieni sy'n gweithio ond dileu'r rhwystrau i gyflogaeth y mae rhieni yn eu hwynebu. Felly, mae canfyddiadau calonogol o'r canlyniad hwnnw, o'r gwerthusiad, ond hefyd cyfle i ystyried hyn o ran ffyrdd y gallwn sicrhau bod y cynnig gofal plant yn cyflawni, fel y gall leihau'r rhwystrau hynny i fenywod sy'n dechrau gweithio ac sy'n cymryd rhan mewn cyflogaeth.
Nid wyf yn credu y gall y cynnig gofal plant, ynddo'i hun, egluro'r gwahaniaeth yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau rhwng gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru. Ar un pen y sbectrwm, mae gennym ni Ynys Môn, â bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 25.5 y cant ymhlith trigolion yn ei dalgylch yn y fan honno, ac yn agos iawn wedyn mae Bro Morgannwg, eich etholaeth chi—23.4 y cant. Ond ar ben arall y raddfa, mae gennym ni Gwynedd â bwlch o -0.2, a Chonwy â bwlch o -8.7. Beth fyddwch chi'n ei ofyn i Weinidog yr economi ei ystyried pan fydd yn penderfynu ar y cymorth a roddir i wahanol fathau o fusnesau, a allai helpu i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn?
Wel, rwy'n falch iawn, Suzy Davies, eich bod wedi tynnu sylw at y diffyg cysondeb hwnnw o ran gweithredu camau i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sydd wedi gostwng ychydig yn 2018, ond tua 8 y cant yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru. Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gweithredu ar hyn, a byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog, fel y dywedasoch chi, o ran ysgogi hyn drwy'r cynllun cyflogadwyedd, a hefyd, drwy'r contract economaidd. Mae'r cynllun cyflogadwyedd, wrth gwrs, yn hollbwysig, oherwydd mae angen inni sicrhau bod hwnnw'n ystyried y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Os byddwn yn dadansoddi'r wybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, os edrychwn ni ar gwmnïau sy'n cyflogi dros 250 o bobl, mae angen inni annog cwmnïau i, er enghraifft, dalu'r cyflog byw gwirioneddol a monitro ein holl raglenni, yn enwedig y rhai economaidd, i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau wrth wraidd y camau gweithredu. Felly, dyna yn sicr y byddaf yn canolbwyntio arno yn fy nghyfarfod gyda Ken Skates yn yr wythnos neu ddwy nesaf.