Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'n fawr iawn ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yng Nghasnewydd fis diwethaf gennych chi. Ac ymhlith y rhai hynny a oedd yn siarad yn y lansiad yn Theatr Glan yr Afon oedd Luke Hart, y llofruddiwyd ei fam a'i chwaer gan ei dad ar ôl blynyddoedd o gam-drin. Mae Luke a'i frawd Ryan, ers hynny, wedi dechrau prosiect o'r enw CoCo Awareness. Mae addysgu pobl am arwyddion cam-drin yn hollbwysig, yn ogystal â sicrhau bod pobl sy'n dioddef cam-drin yn gwybod y cânt eu clywed ac y bydd pobl yn gwrando arnyn nhw pan eu bod yn gofyn am gymorth. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu sut y bydd ymgyrch Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda goroeswyr, yr heddlu a sefydliadau eraill sydd â swyddogaeth hanfodol bwysig o ran codi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth a galluogi pobl i adrodd am hynny?