Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 19 Chwefror 2019.
Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, gyda chaniatâd y Llywydd, hoffwn ychwanegu fy ngeiriau at y teyrngedau i Paul Flynn. Roedd yn gyfaill ac yn fentor gwych i mi yn bersonol. Ac roedd Paul yn ddatganolwr brwdfrydig, yn hyrwyddwr dros y Gymraeg, ac roedd yn hynod falch o weld y Senedd hon yn cael ei sefydlu. Roedd yn hoff iawn o Gasnewydd, a gwn ei fod yn hynod falch bod pobl Gorllewin Casnewydd wedi cadw ffydd ac wedi ymddiried ynddo am dros 30 mlynedd. A hoffwn hefyd ddiolch i'r Llywydd am ganiatáu i mi wneud datganiad byr yn deyrnged iddo ef yfory. Mae ein meddyliau a'n cariad gyda'i wraig, Sam, a'i deulu.
Gan symud ymlaen at fy nghwestiwn:
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth? OAQ53474
Wel, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Jayne Bryant am ei theyrnged i'ch mentor a'ch ffrind annwyl iawn, yr ysbrydoledig Paul Flynn? Roeddwn yn ffodus i adnabod Paul a gweithio a dysgu ganddo yn ôl pan oeddwn i'n weithiwr cymunedol yn Pilgwenlli, ac yntau'n gynghorydd Llafur. Rydym wedi clywed llawer o deyrngedau gwych ar draws y Siambr hon, ac wrth gwrs, mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwfn â'i deulu.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn, lansiais yr ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' ym mis Ionawr. Mae hon yn ymgyrch blwyddyn o hyd sy'n codi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi'r gweithlu sector cyhoeddus i allu nodi rheolaeth drwy orfodaeth drwy ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'n fawr iawn ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yng Nghasnewydd fis diwethaf gennych chi. Ac ymhlith y rhai hynny a oedd yn siarad yn y lansiad yn Theatr Glan yr Afon oedd Luke Hart, y llofruddiwyd ei fam a'i chwaer gan ei dad ar ôl blynyddoedd o gam-drin. Mae Luke a'i frawd Ryan, ers hynny, wedi dechrau prosiect o'r enw CoCo Awareness. Mae addysgu pobl am arwyddion cam-drin yn hollbwysig, yn ogystal â sicrhau bod pobl sy'n dioddef cam-drin yn gwybod y cânt eu clywed ac y bydd pobl yn gwrando arnyn nhw pan eu bod yn gofyn am gymorth. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu sut y bydd ymgyrch Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda goroeswyr, yr heddlu a sefydliadau eraill sydd â swyddogaeth hanfodol bwysig o ran codi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth a galluogi pobl i adrodd am hynny?
Diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn yna. Roeddwn yn ffodus i fod yn lansiad yr ymgyrch hon, ac i glywed y cyflwyniad pwerus iawn gan Luke Hart o CoCo Awareness am ei brofiad. Ac mae ef a'i frawd wedi ymrwymo eu bywydau bellach i godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth, a arweiniodd at farwolaeth eu mam a'u chwaer. Felly, mae'r ymgyrch hon yn bwysig i ni wrth fwrw ymlaen â'n gwaith o godi ymwybyddiaeth o natur dwyllodrus, cronnol rheolaeth drwy orfodaeth. A bydd yn annog dioddefwyr i ddeall bod yr hyn y maen nhw'n ei brofi yn ymddygiad gorfodol, rheolaethol—mae'n amhriodol ac yn gamdriniol, a gallan nhw ofyn am gymorth. Mae'n ymgyrch blwyddyn o hyd, ac, yn amlwg, caiff ei chyflawni o ganlyniad i ymgysylltu â phob un o'r partneriaid hynny sy'n rhan o'n strategaeth genedlaethol o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth trais yn erbyn menywod. Ac yn olaf, ar y pwynt hwn, yn bwysig iawn o ran y sector cyhoeddus, mae dros 135,000 o weithwyr proffesiynol wedi'u hyfforddi drwy ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ers mis Rhagfyr 2015, mae rheolaeth drwy orfodaeth wedi bod yn drosedd, a chaiff ei gydnabod bellach fel math o gam-drin domestig. Fodd bynnag, mae cyflawnwyr yn arbennig o fedrus o ran gallu cuddio eu gweithredoedd, am wneud i'r dioddefwyr amau eu hunain drwy ddulliau seicolegol ac am osgoi cyfiawnder—ac rwy'n gwybod hyn yn iawn o'm profiad o weithio gyda Cymorth i Fenywod Cymru. Gan ei bod yn drosedd, mae'n rhaid i swyddogion yr heddlu gael eu hyfforddi'n dda, er mwyn sicrhau y gall y rhai hynny sy'n dioddef gael cyfiawnder. Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd gan Blaid Cymru y llynedd nad oedd llawer o swyddogion yr heddlu yng Nghymru wedi cael yr hyfforddiant hwnnw, ac roedd y ffigurau hynny yn dangos mai ein heddlu mwyaf, Heddlu De Cymru, oedd â'r gyfran isaf o swyddogion wedi'u hyfforddi yng Nghymru i ymdrin â rheolaeth drwy orfodaeth. Yn absenoldeb cyfrifoldeb a phwerau uniongyrchol dros y system cyfiawnder troseddol, beth arall y gellir ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r drosedd hon, yn enwedig ymhlith yr heddlu, i sicrhau bod cyflawnwyr—pob un ohonyn nhw—yn cael eu dwyn gerbron llys?
Diolch i Leanne Wood am y cwestiwn pwysig yna. Yn ddiddorol, ddoe, roeddwn yn y bwrdd plismona, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, lle'r oedd prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu yn trafod troseddu yn eu cymunedau. Ac, yn wir, codwyd cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod gan brif gwnstabliaid fel problem yr oedden nhw'n bryderus iawn amdani, o ran eu blaenoriaethau. Mae'n hanfodol bod yr heddlu yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwn, sydd ar gael erbyn hyn o dan ein fframwaith hyfforddiant cenedlaethol, ond hefyd ein bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn ni sicrhau bod pobl yn deall bod rheolaeth drwy orfodaeth—fel y dywedwch chi, yn drosedd—yn Nghymru a Lloegr, yn drosedd benodol yn rhan o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015. Ac, yn wir, cofnodwyd mwy na 9,000 o droseddau rheolaeth drwy orfodaeth gan yr heddlu yn 2018. Felly mae'n rhaid i ni sicrhau—a gwelais hynny ddoe yn y bwrdd plismona—fod yr heddlu yn flaenllaw yn ein hymgyrch yn erbyn rheolaeth drwy orfodaeth.