Rheolaeth drwy Orfodaeth

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:32, 19 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, gyda chaniatâd y Llywydd, hoffwn ychwanegu fy ngeiriau at y teyrngedau i Paul Flynn. Roedd yn gyfaill ac yn fentor gwych i mi yn bersonol. Ac roedd Paul yn ddatganolwr brwdfrydig, yn hyrwyddwr dros y Gymraeg, ac roedd yn hynod falch o weld y Senedd hon yn cael ei sefydlu. Roedd yn hoff iawn o Gasnewydd, a gwn ei fod yn hynod falch bod pobl Gorllewin Casnewydd wedi cadw ffydd ac wedi ymddiried ynddo am dros 30 mlynedd. A hoffwn hefyd ddiolch i'r Llywydd am ganiatáu i mi wneud datganiad byr yn deyrnged iddo ef yfory. Mae ein meddyliau a'n cariad gyda'i wraig, Sam, a'i deulu.

Gan symud ymlaen at fy nghwestiwn: