Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 19 Chwefror 2019.
Trefnydd, a gaf i ofyn am sawl datganiad, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf mewn cysylltiad ag uned ffibrosis systig ysbyty Llandochau. Gwerthfawrogaf fod achos busnes wedi mynd at y Gweinidog iechyd gan y bwrdd iechyd. Ond wrth siarad ag ymarferwyr lleol yn yr uned ffibrosis systig yno, mae pryder nad yw'r cynnydd mor gyflym ag y dylai fod. Bu gwaith rhagorol yn digwydd ar y safle yno, gwelliannau enfawr yn y canlyniadau i gleifion, a byddai'n hwb i'w groesawu i'r canlyniadau i gleifion ac i'r clinigwyr sy'n gweithio ar y safle, pe gellid o bosib fapio pryd fydd modd cwblhau'r gwelliannau i'r uned, a gobeithio y bydd hynny yn y dyfodol agos.
Yn ail, a gawn ni ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth mewn cysylltiad â'r ffordd ddosbarthu ddwyreiniol yma yng Nghaerdydd? Neu welliant Rover Way—mae ganddi lawer o deitlau. Dyna'r bwlch olaf sydd ar goll yng nghadwyn y ffordd gylchol o amgylch Caerdydd, ac mae unrhyw un sy'n teithio ar y darn hwnnw o ffordd yn sylweddoli bod y tagfeydd yno bron bob adeg o'r dydd, â dweud y gwir, yn y man cyfyng hwnnw yn y rhwydwaith trafnidiaeth o amgylch Caerdydd. Diweddariad ar y cynnydd—deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb ynghyd â chyngor dinas Caerdydd, a gwerthfawrogir yr astudiaeth ddichonoldeb honno'n fawr er mwyn deall a fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ag unrhyw waith i wella'r man cyfyng iawn hwnnw, sydd erbyn hyn yn brif wythïen drafnidiaeth o amgylch Caerdydd.
Hefyd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi mewn cysylltiad â tholl teithwyr awyr? Credaf ei bod yn hanfodol. Ni allaf ddod o hyd i ddadl resymegol pam—ac rwyf yn beirniadu fy Llywodraeth fy hun yma—nid yw'r doll teithwyr wedi'i datganoli yma i Gaerdydd felly, yn amlwg, ni ellir ei defnyddio er budd Maes Awyr Caerdydd. Credaf fod cyfle gwirioneddol yma. Rwyf wedi cymryd safiad hirhoedlog, pan oedd y comisiwn Silk yn cyfarfod hefyd, ac roedd yn un o argymhellion y comisiwn Silk. A chredaf, yn hytrach na darllen am hyn yn y wasg, fel yr oeddem wedi'i ddarllen ddoe, y byddai datganiad ar lawr y Senedd yn cael ei werthfawrogi'n well—yn sicr gennyf i fy hun, ond gan Aelodau eraill, rwyf yn siŵr—fel y gallwn ddeall mewn gwirionedd pam mae'r rhwystrau ffordd hyn yn bodoli.
Ac, ar nodyn ysgafnach, a gaf i hefyd dynnu sylw'r Cynulliad at y brif gêm rygbi sy'n digwydd ddydd Sadwrn, tîm rygbi'r Cynulliad yn chwarae yn erbyn Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi? Rwy'n addo cadw fy nghrys ymlaen; rwy'n credu y bu imi ddychryn llawer o bobl pan dynnais fy nghrys rai blynyddoedd yn ôl, gan feddwl bod angen i mi ei gyfnewid. Ond gwn fod Rhun, un o'r Aelodau sy'n cymryd rhan, Hefin David—rydym yn chwarae yn ei etholaeth ef yng Nghaerffili—a Huw Irranca wedi bod yn gefnogwyr mawr o'r hyn y mae'r clwb wedi ceisio'i gyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf. Codwyd dros £35,000 ar gyfer Bowel Cancer UK, ac elusennau eraill ers ei sefydlu, yn ôl yn 2005/2006, rwy'n credu. Ac os oes unrhyw Aelodau sy'n clywed hyn eisiau dod i chwarae ddydd Sadwrn, neu, yn amlwg, dim ond i gefnogi'r tîm, gwn y byddai pawb yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Diolch yn fawr iawn.