Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn. O ran gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru, nid yn unig y mae ad-drefnu'r gwasanaeth fasgwlaidd wedi elwa o fuddsoddiad o bron £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn bwysicach na hynny, mae wedi bod yn hollbwysig o ran denu staff hanfodol er mwyn cyflawni canlyniadau clinigol rhagorol i fod yn gynaliadwy.
Er yr ymgynghorwyd yn gyhoeddus a chytunwyd ar y gwaith ad-drefnu ychydig flynyddoedd yn ôl, yn dilyn ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd a rhanddeiliaid i ddatblygu'r cynnig, mae'r bwrdd iechyd wedi parhau, yn ystod y cam gweithredu, i weithio â chyrff proffesiynol, staff a grwpiau sydd â diddordeb, i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir er lles diogelwch y cleifion. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymdrech a wnaed gan y bwrdd iechyd i gwrdd â chanllawiau'r Gymdeithas Fasgwlaidd a sicrhau bod sgrinio am ymlediad yng Nghymru yn unol â safonau ansawdd. Mae pobl Cymru yn haeddu'r gwasanaethau gorau y gallwn eu darparu, ac nid yw o gymorth i barhau i gwestiynu'r model, sydd ond wythnosau o'i weithredu terfynol, ac felly yn ychwanegu at yr ofnau ynghylch diogelwch cleifion.
O ran y mater pam mae'r cyfarfod wedi'i ganslo neu a yw wedi'i ohirio, byddwn yn awgrymu bod hynny'n cael ei godi'n uniongyrchol â'r bwrdd iechyd, ond gallwch hefyd ysgrifennu at y Gweinidog iechyd am ragor o wybodaeth.