Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. O ran y cwestiwn cyntaf ynghylch Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn hynod o falch o'i gyflawni yma yng Nghymru. Ac rwy'n wirioneddol falch bod Coleg Cambria ac eraill wedi mabwysiadu ysbryd y Ddeddf honno. Er nad ydyn nhw yn ddarostyngedig i'r Ddeddf eu hunain o reidrwydd, maen nhw'n cymryd camau i weithredu o fewn ffyrdd o weithio y Ddeddf honno er mwyn sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn cael effaith gadarnhaol ar y cenedlaethau a fydd yn dilyn.
Yn fy mhortffolio, rwy'n sicr yn awyddus i weithio'n agos iawn gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Rwyf yn cwrdd â hi cyn hir i drafod pennu cyllidebau o fewn Llywodraeth Cymru. Ar ôl yr ail gyllideb atodol, rydym ni'n bwriadu cael digwyddiad bord gron, rhyw fath o gymryd stoc, mewn gwirionedd, i ystyried pa wersi y gallem ni eu dysgu ynghylch y broses o bennu cyllideb drwy'r flwyddyn.
Fe wnaf yn sicr ymuno â chi i ddweud 'Da iawn a phob lwc i Nomadiaid Cei Connah' ar gyfer eu gêm sydd i ddod.