Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 19 Chwefror 2019.
Mae’n rhaid imi ddweud bod fy ngyrrwr tacsi i, sy’n byw yng Nghei Connah, wedi codi’r gêm gyda mi hefyd, felly roeddwn i’n cadw llygad barcud arni. Roeddwn i yng Ngholeg Cambria ddoe ar gyfer digwyddiad cymunedol a dweud y gwir—digwyddiad colli golwg Vision Support Sir y Fflint—ac roedd rhai o'ch cydweithwyr a’ch ffrindiau chi yno hefyd, felly rwy'n cefnogi eich sylwadau yn hynny o beth.
Rwyf yn galw am un datganiad ynghylch cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol. Mae llyfr gwaith y cynghorydd yn dweud, ynghylch cyllid llywodraeth leol, fod y cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi wedi eu cyfyngu gan gytundeb lleol i ariannu mathau penodol o wariant, ond gellir eu hailystyried neu eu rhyddhau os bydd cynlluniau’r cyngor ar gyfer y dyfodol neu eu blaenoriaethau yn newid.
Yn setliad llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, mae Caerdydd, gyda chyfanswm defnyddiadwy o gronfeydd wrth gefn o £109.6 miliwn, yn cael cynnydd o 0.9 y cant; mae Rhondda Cynon Taf, sydd â chronfeydd wrth gefn o £152.1 miliwn, yn cael cynnydd o 0.8 y cant; mae Casnewydd, sydd â chronfeydd wrth gefn o £102.3 miliwn, yn cael cynnydd o 0.6 y cant; mae Abertawe, sydd â chronfeydd wrth gefn o £95.1 miliwn yn cael cynnydd o 0.5 y cant. Ond mae’r cynghorau â'r toriadau mwyaf o -0.3 y cant yn cynnwys sir y Fflint sydd â chronfeydd wrth gefn o £49.4 miliwn, Conwy â dim ond £22.7 miliwn, ac Ynys Môn â £24.1 miliwn.
Nawr, fel yr ydych yn ymwybodol, yn Ynys Môn, mae’r allbwn economaidd fesul unigolyn, ffyniant, ychydig o dan hanner y ffigur ar gyfer Caerdydd, sef £13,935 y pen yn unig—yr isaf yng Nghymru. Mae Ynys Môn a Chonwy ymhlith y pum awdurdod lleol yng Nghymru lle mae 30 y cant neu fwy o’r gweithwyr yn cael cyflog sy’n llai na'r cyflog byw gwirfoddol. Ddoe, adroddwyd yn y Daily Post bod prif swyddog cyllid cyngor Ynys Môn yn rhybuddio, os nad oedd y cyngor yn rhoi mwy o arian yn ei gronfeydd wrth gefn, y gallai’r awdurdod fynd yr un ffordd â swydd Northampton, nad oedd yn gallu mantoli ei gyfrifon ac, i bob pwrpas, a ddaeth yn fethdalwr y llynedd. O ystyried y pwyntiau hyn, rwy'n gobeithio y cawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, â chyn lleied o feio pobl eraill â phosibl, ac sy’n pwysleisio gymaint â phosibl ar sut y daethom i’r sefyllfa hon o fewn y gyfran sydd ar gael yng Nghymru, a sut ar y ddaear yr ydym ni am gael ein hunain allan ohoni fel na fydd rhaid i gynghorau fel Ynys Môn ystyried mynd yr un ffordd â swydd Northampton.