Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 19 Chwefror 2019.
Hoffwn groesawu datganiad y Gweinidog ac ailddatgan cefnogaeth fy mhlaid i'r gronfa trawsnewid. Mae ychydig fel defnyddio un tynfad i geisio troi'r Titanic, ond mae'r Gweinidog wedi cydnabod hynny, ac mae i gyd yn ymwneud â nodi arfer da. Roedd hi hefyd yn galonogol clywed y Gweinidog yn dweud ar ddiwedd ei ddatganiad bod gennym ni lawer i'w wneud o hyd, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod hynny, ond mae potensial yma yn rhai o'r prosiectau yr wyf yn bersonol yn ymwybodol ohonyn nhw a gafodd eu cyflwyno gan rai o fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn fy rhanbarth i—rhai ohonyn nhw'n syniadau eithaf syml, ond yn syniadau a oedd angen adnoddau i'w rhoi ar waith a rhai a allai wneud gwahaniaeth aruthrol. Mae'r Gweinidog yn gywir, wrth gwrs, pan ddywed ei bod hi'n her i ddarparwyr gwasanaethau, yn enwedig mewn cyfnod anodd, edrych y tu hwnt i angen dybryd ac uniongyrchol, ac mae'r gronfa trawsnewid, rwy'n derbyn, wedi rhoi cyfle iddyn nhw wneud hyn ac i edrych ar weithio gyda'i gilydd mewn ffordd newydd.
Fe hoffwn i ofyn rhai cwestiynau penodol i'r Gweinidog. Mae'r cyntaf yn ymwneud â faint o'r £100 miliwn mewn gwirionedd sydd wedi'i ymrwymo hyd yn hyn. Mae'r Gweinidog yn sôn am £41.2 miliwn yn ei ddatganiad i ni heddiw. Caf ar ddeall, yn y papurau sydd wedi eu hanfon at—rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ddarparu papurau—y pwyllgor iechyd, bod swm o £65 miliwn wedi ei grybwyll. Nawr, efallai mai prosiectau yw'r rheini sy'n cyfeirio at—. Efallai bod hynny'n cyfeirio at brosiectau y mae'r Gweinidog yn disgwyl eu cymeradwyo—fel y crybwyllodd eisoes—yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurhad ynghylch hynny. Mae'n rhaid imi ddweud, os mai £65 miliwn yw'r swm, yna rwy'n falch iawn o glywed hynny, gan fy mod i'n credu y byddai'r Gweinidog yn iawn i gredu po gyflymaf y cawn ni'r arian allan, y cyflymaf y bydd y prosiectau yn gweithredu, a'r cyflymaf y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw. Ond byddwn yn croesawu'r eglurhad hwnnw.
Nawr, mae'n amlwg o ymatebion y Gweinidog i Darren Millar nad ydym ni hyd yn hyn wedi cael cynigion gan bob un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Unwaith eto, mae papurau'r pwyllgor iechyd yn cyfeirio'n benodol at y ffaith nad oes dim eto wedi cael ei gytuno ar gyfer Powys. Nawr, yn amlwg, gan fy mod yn un o gynrychiolwyr Powys yn y Cynulliad, mae hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i mi. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig bach yn fwy wrthym ni y prynhawn yma ynghylch pa gamau y mae ef a'i swyddogion yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod ceisiadau yn cael eu cyflwyno gan fyrddau ledled Cymru. Rwy'n deall yn llwyr y pwyntiau y mae wedi eu gwneud i Darren Millar, nad yw hyn yn rhyw fath o ymarfer ticio blychau, nad yw'n bwriadu dweud, 'Rydym ni'n gwario'r swm hwn o arian yn y fan yma a'r swm hwn o arian yn y fan acw a'r swm hwn o arian yn y fan acw.' Nid dyma oedd bwriad y gronfa hon, ac roeddem ni i gyd yn cefnogi hynny, ond buaswn yn siomedig iawn yn bersonol petaem ni'n cyrraedd pwynt pan nad oedd o leiaf un prosiect posib ym mhob man yng Nghymru. Ac rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog: Rwy'n siŵr bod y rhai sy'n gweithio'n galed i gyflwyno ein gwasanaethau ac yn gweithio yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol wirioneddol eisiau defnyddio'r arian hwn i sicrhau'r effaith orau, ond byddai'n drueni mawr pe bai unrhyw gymuned yng Nghymru heb gael rhywfaint o fudd posib.
Os caf i gyfeirio, felly, at y byrddau partneriaeth rhanbarthol, gan eu bod, yn amlwg, yn mynd i barhau i fod yn hollbwysig wrth gyflwyno'r gwaith hwn, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch sut y mae ef a'i swyddogion yn monitro perfformiad byrddau partneriaeth rhanbarthol? Soniwyd wrthyf i am rai pryderon penodol ynghylch atebolrwydd oherwydd, yn amlwg, mae pobl o'r holl gyrff gwahanol hyn yn dod at ei gilydd. Sut maen nhw'n atebol i'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli? Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed ychydig yn fwy gan y Gweinidog heddiw am y canllawiau a ddarperir i'r byrddau o ran beth yw'r berthynas rhyngddyn nhw â'u cymunedau.
Os caf i gyfeirio, felly, unwaith eto, at yr holl faes o uwchraddio'r prosiectau, y cyfeiriodd y Gweinidog ato yn ei ddatganiad gan ddweud ychydig yn fwy mewn ymateb i Darren Millar am yr adolygiad cyflym. Roeddwn yn falch o glywed bod hwnnw'n annibynnol ac edrychaf ymlaen at y Gweinidog yn ysgrifennu atom ni gyda mwy o fanylion am yr hyn y canfu'r adolygiad, ond, ar yr un pryd, mae datganiad y Gweinidog yn sôn am ddatblygu cyfres o ddangosyddion cenedlaethol. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw ychydig ynghylch beth oedd y meini prawf a ddefnyddiwyd yn yr adolygiad cyflym? Os nad yw'r dangosyddion cenedlaethol gennym ni ar hyn o bryd—ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y ffaith bod partneriaid yn cymryd rhan yn y broses hon—ar ba sail oedd yr adolygiad cyflym yn barnu ynghylch yr hyn a gyflawnwyd hyd yma?
Mae'r £100 miliwn i'w groesawu'n fawr, fel y dywedais, ond mae'n swm bach iawn o'i gymharu â'r £7.5 biliwn sef cyfanswm y gyllideb iechyd a gofal. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn cydnabod ein bod yn hanesyddol yng Nghymru wedi dioddef ychydig o 'glwy'r prosiectau'—sef bod gennym ni syniadau da sy'n cael eu profi, yn cael cadarnhad eu bod yn gweithio, ac wedyn yn diflannu pan ddaw'r cyllid grant i ben. Nawr rwy'n gwybod nad yw'r Gweinidog yn bwriadu i hyn ddigwydd o ran prosiectau a ariennir gan y gronfa trawsnewid, ond a all y Gweinidog ddweud wrthym ni ychydig mwy ynghylch sut mae'n bwriadu sicrhau nad y 'clwy prosiectau' hwn—y prosiect da hwnnw sy'n diflannu pan fo'r arian wedi terfynnu—fydd tynged rhywfaint o'r gwaith cadarnhaol iawn y gellir ei ariannu gan y gronfa trawsnewid? Ac a all amlinellu inni heddiw y broses y bydd yn ei defnyddio i sicrhau bod y prosiectau llwyddiannus y tro hwn yn cael eu huwchraddio ac na fyddwn ni ymhen pum mlynedd unwaith eto'n dweud 'Rydym ni'n gwybod bod hynny wedi gweithio'n dda iawn, ond, am ba reswm bynnag, ni wnaethom ni wneud i'r gwaith hwnnw lwyddo ledled Cymru'? Rydym ni, wrth gwrs, yn wlad o gymunedau amrywiol iawn. Ni fydd pethau bob amser yn gweithio o un lle i'r llall, ond holl ddiben, fel y deallaf i, y gronfa trawsnewid yw darparu arfer da y gellir ei uwchraddio, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig bod y Siambr hon yn deall sut mae'r Gweinidog yn mynd i wneud i hynny ddigwydd.