Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch, Llŷr Huws Gruffydd am y gyfres o gwestiynau. Ni allaf esgus bod—. Byddai'n dda gennyf fod â llawer mwy o arian i'w roi i bob un o'n cynlluniau Cartrefi Clyd. Rydych chi'n dweud mai'r addewid yn eich maniffesto chi oedd rhoi £3 biliwn—dros dair blynedd, rwy'n credu i chi ddweud—[Torri ar draws.]—nage, dros gyfnod hwy. Hynny yw, mae'n rhaid i chi ystyried o ble y deuai'r cyllid hwnnw. Nid yw fy nghyllideb i yn £1 biliwn y flwyddyn hyd yn oed, ac, yn amlwg, mae hynny ar draws yr adran i gyd. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr a byddwn yn dymuno rhoi mwy o arian i'r cynllun i ni allu ôl-osod llawer mwy o dai.
O ran y datgarboneiddio—ac anghofio'r agwedd Cartrefi Clyd—rwy'n gwybod, os ydym eisiau cyrraedd ein targed allyriadau carbon, fod angen inni roi llawer mwy o ymdrech yn ein cartrefi. Ond, unwaith eto, rydych chi'n dychwelyd at uchelgais, mae'n rhaid ichi fod yn ymarferol, mae'n rhaid ichi fod yn realistig. Rwy'n awyddus i fod yn uchelgeisiol, rwy'n awyddus i gael dyheadau, ond, yn yr un modd, mae'n rhaid inni fod yn ymarferol hefyd. Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr Arbed a Nyth lawer tro, nid yn unig ers imi fod yn y portffolio hwn, ond yn Aelod Cynulliad yn fy etholaeth i fy hun, ac ni allwn ond gwneud yr hyn a fedrwn â'r cyllid a'r adnoddau sydd gennym. Ond mae un farwolaeth yn un farwolaeth yn ormod, ac yn sicr nid ydym eisiau cael y niferoedd yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw yng Nghymru.
Credaf ei bod yn bwysig iawn fod gan y strategaeth hon ei tharged. Roeddech chi'n sôn am darged 2018, ac o edrych yn ôl, mae'n sicr nad oedd modd ei gyflawni, ac felly nid wyf i'n gweld diben cael targedau, yn arbennig pan fyddwch chi'n Weinidog ac yn meddwl, 'Wel, ni fyddaf yma ymhen 10 mlynedd', a gallwch addo unrhyw beth a fynnoch. Nid person felly ydw i ac nid wyf eisiau gwneud hynny. Ond rwyf yn credu, o fewn y strategaeth, fod angen gosod targedau realistig y gellir eu cyflawni.
Fe wnaethoch chi ofyn am Ran L y rheoliadau adeiladu—mae hynny'n cael ei ddatblygu erbyn hyn gan fy nghyd-Aelod Julie James. Yn sicr byddaf yn gofyn iddi hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n parhau i roi gwybod i'r Aelodau am y targedau sydd i'w cyflwyno.
Roeddech chi'n sôn am fesuryddion talu ymlaen llaw. Rwyf i o'r farn bod gormod o bobl yn talu gormod am yr anghenion ynni yn eu cartrefi, oherwydd yn syml eu bod nhw ar fesurydd talu ymlaen llaw. Pan edrychais i ar niferoedd y bobl sydd ar y mesuryddion hyn, tua 5 y cant ydyn nhw o'r perchen-feddianwyr. Yn y sector preifat, mae'r niferoedd yn cynyddu i 23 y cant ar gyfer mesuryddion talu ymlaen llaw am drydan, a 26 y cant ar gyfer nwy. Pan fyddwch yn ystyried tai cymdeithasol, mae'n codi i 46 y cant ar gyfer trydan a 44 y cant ar gyfer nwy. Gwn fod yn well gan rai pobl eu defnyddio nhw, ac mae hynny'n berffaith iawn, ac rwy'n gwybod mai'r rheswm am hynny yw eu bod yn ofni mynd i ormod o ddyled. Ond credaf fod yn rhaid inni wneud llawer mwy i gefnogi pobl i gael mynediad at dariffau fel y gallant fod ar y tariff gorau posib i wresogi eu cartrefi am bris fforddiadwy. Byddwch yn ymwybodol o gyflwyniad y cap ar fesuryddion talu ymlaen llaw, a wnaed yn dilyn argymhellion gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a chredaf fod hynny i'w groesawu'n fawr iawn. Serch hynny, rwyf wedi cael y trafodaethau hyn gyda'r cwmnïau ynni—a chredaf fod yn rhaid iddyn nhw wneud llawer mwy i roi cynnig llawer gwell i gwsmeriaid sy'n talu ymlaen llaw, yn arbennig y cwsmeriaid sy'n agored i niwed, i sicrhau nad yw'r cyflenwadau yn cael eu torri yn ystod misoedd y gaeaf, oherwydd gwn fod yna hunan ddatgysylltiad, a chredaf fod gan y cwmnïau ynni ddyletswydd foesol i wneud hynny.