– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 19 Chwefror 2019.
Eitem 5 yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y rhaglen Cartrefi Clyd, ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig—Lesley Griffiths.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, gan nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Cenedlaethol o Dlodi Tanwydd, roedd National Energy Action Cymru, gyda chymorth SSE, yn cynnal ei gynhadledd tlodi tanwydd eleni dan yr enw 'Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd ac Anghydraddoldeb: Y Ffordd Ymlaen'. Dyma gyfle i Lywodraeth, Ofgem a phartneriaid allweddol yn cynrychioli'r sector ynni a'r trydydd sector ddod ynghyd i rannu'r llwyddiannau a nodi'r heriau, ond yn bwysicach i ystyried sut y gallwn weithio orau gyda'n gilydd mewn partneriaeth i gefnogi pobl yn ein cymdeithas y caiff eu bywydau eu handwyo'n barhaus yn sgil byw ar aelwyd oer. Heddiw, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni ein tai, gan fod yn ddinasyddion byd-eang da drwy leihau ein hôl troed carbon a lleihau'r gyfran o adnoddau'r byd a fynnwn ar gyfer ein hanghenion ni.
Dylai pawb gael byw mewn cartref gweddus. Mae tai gweddus yn creu cymunedau gweddus y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw. Mae tai clyd a fforddiadwy yn atal afiechyd, maen nhw'n helpu ein plant i wneud yn dda yn yr ysgol ac yn sicrhau bod rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn teimlo'n fwy diogel. Dyma pam ei bod mor bwysig inni ganolbwyntio ar greu cartrefi gweddus a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ers ei lansio bron ddeng mlynedd yn ôl, mae'r rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n cynnwys y cynllun Nyth sy'n cael ei arwain gan y galw a'r cynllun Arbed sy'n seiliedig ar ardal, wedi rhoi cyngor ar effeithlonrwydd ynni i fwy na 112,000 o bobl ac wedi gwella mwy na 50,000 o gartrefi drwy sefydlu mesurau effeithlonrwydd ynni. Heb y cymorth hwn, amcangyfrifwn y byddai mwy na 80,000 o gartrefi wedi ei chael hi'n anodd iawn cadw'n gynnes y gaeaf hwn. Drwy ymestyn y rhaglen hon hyd 2021 bydd modd inni wella hyd at 25,000 o gartrefi eraill yn ychwanegol.
Mae'r buddsoddiad o £248 miliwn a roddwyd drwy raglen Cartrefi Clyd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2018 yn ychwanegol at y cymorth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU drwy'r cynllun rhwymedigaeth cwmni ynni. Bellach, mae gan y cynllun rhwymedigaeth newydd hwn fwy o bwyslais ar bobl sy'n byw ar incwm is. Bydd hyn yn hwyluso'r cwmnïau ynni mawr i chwarae eu rhan i sicrhau mwy o gynhesrwydd fforddiadwy.
Mae'r buddsoddiad a wnaed i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus i weithredu safon ansawdd tai Cymru yn y sector tai cymdeithasol, yn cael effaith gadarnhaol. Mae canlyniad yr arolwg diweddaraf ar gyflwr tai Cymru yn dangos mai sgôr tystysgrif perfformiad ynni cyfartalog cartrefi yng Nghymru yn yr arolwg diweddaraf hwn yw band D, o'i gymharu â sgôr gyfartalog o fand E yn 2008. Ond er gwaethaf ein hymdrechion ni, mae nifer y bobl sy'n cael trafferth cadw eu cartrefi'n glud a diddos yn ystod y gaeaf yn parhau'n ystyfnig o uchel. Mae mwy nag un ym mhob pump o aelwydydd, yn anffodus, yn parhau i fyw mewn tlodi tanwydd.
Cynlluniwyd ein cynllun peilot ar gyfer cyflyrau iechyd, a gyflwynwyd yn 2017, i gefnogi ein hymdrechion i leihau cyfraddau afiechyd a marwolaethau cynamserol yn ystod y gaeaf, sy'n gwaethygu drwy fyw mewn cartref oer. Mae'r cynllun peilot yn ymestyn y cymhwyster i alluogi ein cynllun Nyth i gefnogi pobl sy'n byw ar incwm is, nad ydyn nhw'n derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, ac sy'n byw gyda chyflwr iechyd anadlol cronig neu gyflwr tebyg. Rwyf wedi cytuno i ymestyn y cynllun peilot hwn am flwyddyn arall. Bydd hyn yn sicrhau y gall y bobl sydd â'r perygl mwyaf o ddioddef o gyflyrau anadlol a chyflyrau cysylltiedig barhau i dderbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw a bydd hynny'n cyfrannu at ysgafnu pwysau'r gaeaf ar ein gwasanaethau iechyd.
Y gaeaf hwn, rwyf wedi cytuno hefyd i sicrhau bod cyllid ar gael i ddarparu cymorth ar gyfer ein dinasyddion mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn cartref oer gan na allant dalu'r ffi galw allan ar gyfer atgyweirio boeler gwres canolog sydd wedi torri. Dylai gefnogi pobl i allu trwsio'r system sy'n gwresogi eu cartref, yn arbennig mewn cartrefi sydd â phlant, pobl hŷn a phobl anabl, fod yn un o'r blaenoriaethau a rannwn ni.
Gan droi at y dyfodol, fy mwriad yw cyhoeddi ein cynllun newydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yng nghynhadledd ymwybyddiaeth tlodi tanwydd y flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr hydref. Bydd y cynllun newydd yn cynnwys amcanion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n uchelgeisiol. Eto i gyd, bydd yn rhaid inni fod yn ofalus y gellir gwireddu ein dyheadau yn y tymor byr, canolig a hir, a'u bod yn cyd-fynd yn amlwg â'n hagenda ehangach o ddatgarboneiddio. Ar y sail honno, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio gyda'r sector ynni, ein rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, Llywodraeth y DU a'r rheoleiddiwr ynni, i sicrhau ein bod yn datblygu a chyflawni cynllun sy'n gwireddu ein huchelgeisiau cyffredin. Os ydym eisiau cyflawni ein dull egwyddorol ni o weithredu, bydd cydbwyso'r angen i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac ar yr un pryd leihau allyriadau carbon o'r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru, yn gorfod bod wrth wraidd ein cynlluniau i'r dyfodol.
Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch ddechrau unwaith eto drwy gyfeirio at gynhadledd National Energy Action Cymru ddydd Iau diwethaf sef 'Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd ac Anghydraddoldeb: Y Ffordd Ymlaen', o flaen Diwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd ddydd Gwener ac roeddwn innau'n siarad hefyd yn y digwyddiad hwnnw yn ystod y prynhawn, ac yn eistedd ar banel holi wrth i ni symud ymlaen.
Nawr, fel y gwyddoch, yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, er ei fod sawl blwyddyn ar ei hôl hi bellach, mae 291,000 o aelwydydd yng Nghymru—23 y cant—mewn tlodi tanwydd. A wnewch chi ddweud wrthym pa bryd yr ydych yn disgwyl y cyhoeddir y ffigurau diweddaraf? Rydym ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn debygol o wneud hynny yn ystod y gwanwyn hwn.
Roedd monitor tlodi tanwydd National Energy Action 2017-18 yn cyfeirio at nod 2010 Llywodraeth Cymru o ddileu tlodi tanwydd erbyn Rhagfyr 2018, gan nodi nad oes camau gwirioneddol eglur wedi bod hyd yn hyn tuag at wneud ymrwymiad tlodi tanwydd newydd a all ysgogi camau gweithredu strategol ar leihau tlodi tanwydd yn lleol nac yn genedlaethol.
A bod consensws y dylid datblygu strategaeth tlodi tanwydd a chynllun gweithredu newydd, a ddylai gynnwys nodau uchelgeisiol i wella cartrefi hyd at safon isaf ofynnol, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid.
Ond yn eich datganiad chi, fe wnaethoch chi gadarnhau eich bod yn bwriadu cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn y gynhadledd y flwyddyn nesaf, fwy na thebyg ymhen 12 mis arall, a'ch bod chi'n awyddus i weithio gyda'r sector. Sut ydych chi'n bwriadu gweithio gyda'r sector cyn yr ymgynghoriad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, i sicrhau y caiff hynny ei ddatblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid? Oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae modd cyflawni hynny mewn nifer o ffyrdd gwahanol, rhai yn fwy effeithiol nag eraill, er mwyn ysgogi cynllun strategol cenedlaethol gyda nodau uchelgeisiol.
Yn amlwg, gall hynny gynnwys pethau fel inswleiddio gwell, goleuadau a chyfarpar mwy clyfar, systemau gwresogi mwy clyfar, a phob un ohonyn nhw'n arbed arian i ddeiliaid tai. Ond hefyd, fel y dywedodd NEA Cymru rai misoedd yn ôl, er inni wybod bod aneffeithlonrwydd ynni yn ffactor sy'n cyfrannu at dlodi tanwydd, ni wnaiff hynnny ddatrys y broblem ar ei ben ei hun. Mae angen strategaeth newydd, sy'n amlinellu dull mwy cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cyngor a gwasanaethau iechyd, yn ogystal â sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol yn y gymdeithas.
Mae hynny'n cysylltu â'm cwestiwn blaenorol i, ond sut y byddwch chi'n sicrhau nad cynllun neu strategaeth sy'n canolbwyntio'n unig ar effeithlonrwydd ynni sydd yma, er bod hynny'n bwysig, ond ei fod yn canolbwyntio ar yr agenda cyfiawnder cymdeithasol ehangach hefyd?
Yn dilyn strategaeth 2010 Llywodraeth Cymru, nifer y marwolaethau ychwanegol yn ystod gaeaf 2011-12 yng Nghymru oedd 1,250. Fodd bynnag, mae data ONS a ryddhawyd fis Tachwedd diwethaf yn dangos bod nifer y marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yng Nghymru wedi cyrraedd 3,400 yn 2017-18, gyda chynnydd yng Nghymru ac ym mhob rhanbarth yn Lloegr, ond yng Nghymru y cafwyd y mynegai rhanbarthol uchaf.
Yr hydref diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud wrth y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni y byddech yn datblygu cynllun tywydd oer ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ac mae hyn yn adleisio'r alwad ym monitor tlodi tanwydd yr NEA ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun tywydd oer, yn debyg i'r cynllun yn Lloegr a gynhyrchir gan Public Health England. Roedd yn galw hefyd ar y cenhedloedd datganoledig i fabwysiadu canllaw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal, a'r safon gyfatebol o ran afiechyd sy'n gysylltiedig ag oerfel a marwolaethau ychwanegol y gaeaf.
Sut ydych chi'n ymateb i'r galwadau arbennig hynny? Ers blynyddoedd lawer bellach maen nhw wedi bod yn galw am fabwysiadu canllaw NICE, nid yn unig un yr NEA, ond y gynghrair tlodi tanwydd yn ehangach yng Nghymru, a sut ydych chi'n ymateb i'w galwad yng nghyd-destun y gwaith a wneir gan Public Health England dros y ffin?
Yn ôl y monitor tlodi tanwydd, gallai Llywodraeth Cymru warchod aelwydydd agored i niwed gyda chronfa argyfwng ar gyfer gwresogi mewn argyfwng pan fo eu hiechyd yn y fantol. A ydych chi'n ystyried neu a fyddech chi'n ystyried cronfa argyfwng i ateb, unwaith eto, yr alwad sydd wedi ei gwneud ers blynyddoedd lawer? Ac maen nhw'n galw hefyd am fuddsoddiad i wella effeithlonrwydd ynni'r cyflenwad tai presennol yng Nghymru sydd angen ei ehangu ar fyrder. Gwyddom mai gan Gymru y mae'r gyfran uchaf o dai hŷn sy'n lleiaf addas i dderbyn mesurau effeithlonrwydd ynni modern. Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r cynigion yn ein maniffesto diwethaf ar gyfer pecyn cymorth ôl-osod yn seiliedig ar ddull adeilad cyfan, a gymeradwywyd gan y Sustainable Traditional Building Alliance, i gydnabod y mater allweddol hwnnw?
Dau bwynt i orffen. Byddwch yn ymwybodol o gynllun gwres fforddiadwy sir y Fflint a lansiwyd yn 2013, a oedd yn cynnwys cronfa argyfwng ar gyfer pobl na allen nhw fforddio i wresogi eu cartrefi a'u bod angen cymorth ar unwaith. Ond y llynedd, collodd y partner trydydd sector allweddol, y North Wales Energy Advice Centre, a oedd yn ysgogydd i'r cynllun hwnnw mewn gwirionedd, brif ffynhonell ei gyllid. Ac fe wnaethon nhw ysgrifennu ataf i ddweud y dylai'r cynllun gwres fforddiadwy yn sir y Fflint fod yn brosiect blaenllaw i'w efelychu ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig fel dull fforddiadwy o roi cymorth gwirioneddol, ymarferol ac effeithiol i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdano. Ond yn ôl pob tebyg, bydd y prosiect hwn yn dod i ben nawr. Felly, unwaith eto, o ystyried y sylwadau cynharach am yr angen i weithio gyda rhanddeiliaid, sut allwn ni sicrhau nad yw arfer da fel hwnnw yn mynd ar goll, ond yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth wirioneddol â'r rhanddeiliaid allweddol?
Ac yn olaf, yn y digwyddiad ddydd Iau diwethaf, un o'r bobl ar y panel gyda ni oedd rheolwraig polisi ac ymgyrchoedd Age Cymru. Atgoffodd ni fod cylchlythyr Cynghrair Henoed Cymru y gaeaf diwethaf wedi dweud bod cynrychiolwyr y trydydd sector ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio ac mai dim ond rhan fach sydd gan y trydydd sector i'w chwarae a dim ond ychydig iawn, os o gwbl, o ymgysylltiad strategol â chynllunio. A dywedodd mai ei blaenoriaeth gyntaf o ran rhoi tanwydd tlodi wrth galon yr agenda yng Nghymru fyddai mynd i'r afael â hynny a sicrhau bod y trydydd sector yn cael bod yn wir effeithiol ac yn cael ymgysylltiad gwirioneddol â'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Unwaith eto, a ydych chi'n cytuno â hi? Ac os felly, sut, ymhen blwyddyn arall, y byddwch chi'n gweithio â chymheiriaid i sicrhau bod hynny'n digwydd?
Diolch, Mark Isherwood, am y gyfres o gwestiynau. Rydych chi'n holi ynghylch pa bryd y byddwn ni'n cyhoeddi'r ffigurau newydd. Fy nealltwriaeth i yw y bydd hynny yn y gwanwyn, ac rwy'n gwybod y gall hynny gwmpasu sawl mis yn y flwyddyn, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i ddweud pa bryd yn union y credaf y byddwn ni'n cyhoeddi'r ffigurau hynny.
Fel y dywedodd Mark Isherwood, roeddwn i'n bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, yr ydych chi'n ei gadeirio, tua diwedd y llynedd, rwy'n credu, ac yn sicr, fe'i cefais yn fuddiol iawn i gael y sgwrs honno gyda chynifer o randdeiliaid brwdfrydig. Ac, yn fy marn i, wrth fynd ymlaen, buom yn sôn am y strategaeth newydd, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio gyda rhanddeiliaid. Credaf fod angen inni ddod o hyd i ffordd o sicrhau y bydd ganddyn nhw ymateb ystyrlon i'r modd y byddwn ni'n datblygu'r strategaeth tlodi tanwydd newydd. Ac yn sicr byddaf yn ystyried a oes angen rhyw fath o drafodaeth bwrdd crwn neu ryw fath o grŵp i'n helpu i gyflwyno'r strategaeth honno. Nid wyf yn credu y dylai fod yn rhy fawr—rwy'n credu ichi restru nifer o wahanol sefydliadau, ac weithiau mae braidd yn anodd cael gormod o amgylch y bwrdd. Ond, yn sicr, bydd angen yr arbenigedd sydd ganddyn nhw, yn fy marn i.
Fel y gwnaethoch chi ei grybwyll, roeddwn i'n sôn yn fy natganiad agoriadol ein bod ni erbyn hyn yn dechrau edrych at ddatblygu strategaeth tlodi tanwydd newydd i'w chyflwyno yn 2020—tua'r adeg hon y flwyddyn nesaf, mae'n debyg. Rwy'n gobeithio ei chyhoeddi yn y gynhadledd. Byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad yn yr hydref, felly mae angen braenaru'r tir o'r gwanwyn ymlaen, i wneud yn siŵr ein bod ni'n barod i gael yr ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw yn yr hydref, a fydd wedyn yn datblygu'r cynllun newydd i'w gyhoeddi yn gynnar yn 2020. Soniais ei bod hi'n bwysig iawn fod ein hamcanion yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ymarferol i'r dyfodol.
O ran y cynllun tywydd oer, yn sicr, pwyswyd arnaf yn drwm iawn, rwy'n credu, yn y grŵp trawsbleidiol, ynghylch y cynllun tywydd oer, a gofynnais i'm swyddogion, fel y dywedais, ddatblygu cynllun tywydd oer yn rhan o'r cynllun newydd i ymdrin â thlodi tanwydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Rwyf i o'r farn bod angen i'r cynllun ganolbwyntio ar y ffordd orau i warchod pobl agored i niwed sy'n byw mewn cartrefi oer yn ystod misoedd y gaeaf. Fel mesur dros dro ar gyfer y gaeaf hwn, rwy'n derbyn mai gaeaf arbennig o dyner a gafwyd, rwyf wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff mesurau eu rhoi ar waith i warchod pobl sy'n agored i niwed yn rhan o'n cynllun gwytnwch ar gyfer y gaeaf, a gaiff ei lunio gan fy nghyd-Aelod Julie James. Soniais hefyd fy mod wedi rhoi rhywfaint o arian ychwanegol gerbron i sicrhau ein bod yn cefnogi pobl na allant dalu'r ffi galw allan, sy'n rhwystr enbyd i rai pobl. A chaiff hynny ei gyflawni gan y gronfa cymorth dewisol, y bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn ohoni, a gwn ei bod wedi cael ei defnyddio. Yna, pan fydd yr alwad allan wedi bod a dim modd trwsio'r boeler, gellir darparu gwresogi mewn argyfwng. Ac, unwaith eto, gellir atgyfeirio at Nyth am gymorth ychwanegol.
Gofynnodd yr Aelod am ariannu mewn argyfwng, felly rwyf newydd gyfeirio at y ffi galw allan. Fe allwn i ystyried cronfa argyfwng ond, yn amlwg, byddai'n rhaid i'r arian ddod o rywle arall, a byddai'n rhaid i mi chwilio am ffynhonnell i'r cyllid hwnnw. Ond rwy'n sicr yn credu, wrth inni edrych ar ddatblygiad y strategaeth tlodi tanwydd newydd, y byddai hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei ystyried.
Roedd Mark Isherwood yn sôn am gynllun sir y Fflint, yr wyf i'n ymwybodol ohono, yn amlwg, oherwydd ei fod yn y gogledd. Credaf ei bod yn bwysig nad ydym ni'n colli'r arferion da hynny. Felly, unwaith eto, byddwn yn hapus iawn i glywed am brofiadau eraill ac, eto, efallai wrth inni ddatblygu'r strategaeth y gallen nhw fod â rhan yn hynny.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i ddweud ar y cychwyn fy mod i, wrth gwrs, yn cydnabod y cyfraniad mae rhaglen Cartrefi Cynnes ac Arbed a Nyth wedi ei wneud wrth geisio taclo tlodi tanwydd? Ond dwi'n mynd i ddweud yr hyn dwi'n ei ddweud bob tro dwi'n cyfeirio at y rhaglenni yma: dyw maint y rhaglenni yma ddim yn cyfateb i faint yr her sydd yn ein hwynebu ni yng Nghymru, wrth gwrs, o safbwynt tlodi tanwydd, heb sôn am newid hinsawdd. Rŷn ni'n gwybod bod bron i 500 o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yn gysylltiedig â thlodi tanwydd yng Nghymru bob blwyddyn. Rŷn ni'n gwybod hefyd fod tua chwarter o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae'r ystadegau yma yn grisis ac yn sgandal cenedlaethol. Ar y raddfa bresennol o fynd i'r afael â thaclo tlodi tanwydd, mi fyddai'n cymryd 48 mlynedd i Gymru gael gwared â thlodi tanwydd. Felly, dyna pa mor annigonol, dwi'n ofni, mae'r ymateb wedi bod.
Felly, wrth estyn y rhaglen Cartrefi Cynnes, gaf i ofyn a fyddwch chi'n ehangu'r adnoddau sydd ar gael, a gwneud hynny yn sylweddol? Neu a ydyn ni'n mynd i gael dwy flynedd ychwanegol o'r un peth? Oherwydd dyw'r cynnydd sydd wedi cael ei ddelifro hyd yn hyn, wrth gwrs, ddim yn ddigonol. Nawr, mi fuodd Plaid Cymru yn glir yn ein maniffesto ni yn yr etholiad Cynulliad diwethaf y buasem ni wedi cyflwyno'r rhaglen retroffitio fwyaf a welodd Cymru erioed, gwerth £3 biliwn dros nifer o flynyddoedd, a dyna'r math o ymateb uchelgeisiol a radical sydd ei angen.
Nawr, mae'r Llywodraeth—ac rydych chi'n dweud yn eich datganiad—wedi gwario rhyw £248 miliwn dros, bron, y 10 mlynedd diwethaf, so beth yw hynny—rhyw £25 miliwn y flwyddyn? Ond rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn gwario £100 miliwn bob blwyddyn ar drin mynediadau i'r ysbyty yn ymwneud â'r oerfel—cold-related hospital admissions.
Felly, mae'r Llywodraeth hon yn gwario £25 miliwn y flwyddyn ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac mae'n costio o leiaf £100 miliwn y flwyddyn i'r GIG ymdrin â rhai o ganlyniadau hynny. Ac, wrth gwrs, nid yw'r £100 miliwn hwnnw'n cynnwys y gost o fynd i'r afael â chanlyniadau cyflyrau anadlu yn sgil byw mewn cartref oer a llaith, a chanlyniadau iechyd meddwl yn sgil mynd i ddyled er mwyn prynu tanwydd ac yn y blaen, ac yn y blaen. Felly, beth mae hynny'n ei ddweud am ba mor ddifrifol y mae'r Llywodraeth hon yn ystyried ei rhwymedigaethau o ran y dull ataliol a hybwyd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, pan fo eich ymateb i'r argyfwng tlodi tanwydd yng Nghymru, a dweud y gwir yn blaen, mor annigonol?
Nawr, rwy'n croesawu'r cynllun newydd arfaethedig ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Yr hyn nad wyf yn ei groesawu, wrth gwrs, yw na chaiff hwnnw ei gyhoeddi tan flwyddyn i nawr, a dyna pryd y caiff ei gyhoeddi, felly nid ydym ni'n hollol siŵr ai dyna pryd y bydd yn dechrau gweithredu. Yn ôl pob tebyg, yn 2021 y bydd hynny'n digwydd pan ddaw'r rhaglen Cartrefi Clyd presennol i ben. Felly, erbyn 2021, byddwn fwy na thebyg wedi gweld bron 1,000 o bobl yn marw yng Nghymru yn sgil marwolaethau ychwanegol y gaeaf a fydd yn ymwneud â thlodi tanwydd. Nawr, nid yw hynny'n dderbyniol, mae'n amlwg. Felly, pa mor uchelgeisiol fydd y cynllun newydd? A fydd y cynllun newydd, er enghraifft, yn cynnwys targed ar gyfer dileu tlodi tanwydd, o gofio, wrth gwrs, eich bod wedi methu'n druenus i fodloni'r targed hwnnw o ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018? Nawr, yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad yw y bydd y cynllun yn cynnwys amcanion uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
Wel, dyna'r math gwaethaf o barablu gwasanaeth sifil yr wyf i wedi ei weld ers amser maith iawn, mewn unrhyw ddatganiad, debygwn i. Pryd mae targed ddim yn darged? Pan fydd yn amcan uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth yw ystyr hynny, Gweinidog? A wnewch chi roi enghraifft i ni, efallai, o sut beth allasai hwnnw fod, yn eich barn chi? Ac, a wnewch chi egluro a fydd y cynllun newydd yn cynnwys targed i ddileu melltith tlodi tanwydd yng Nghymru?
Dau gwestiwn i orffen. Mae 16 y cant o gwsmeriaid ynni yng Nghymru yn defnyddio trydan a nwy gyda mesuryddion talu ymlaen llaw, sef, wrth gwrs, y dull mwyaf costus o dalu. Felly a wnewch chi ddweud wrthym ni beth yn ychwanegol y bydd eich Llywodraeth chi yn ei wneud i helpu'r bobl hynny, y bydd llawer ohonyn nhw'n amlwg yn ei chael hi'n anodd ac yn byw mewn tlodi tanwydd? Ac yn olaf, y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ystyried lefelau effeithlonrwydd ynni tai newydd, fe wnaethoch chi golli eich plwc. Fe wnaethoch chi ymgynghori, wrth gwrs, ar Ran L y rheoliadau adeiladu, ac ymgynghori ar darged o 23 y cant neu 40 y cant arfaethedig ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni, ac fe ddewisoch chi welliant syfrdanol o gymedrol o 8 y cant, gan roi clo ar ragor o aneffeithlonrwydd ynni, wrth gwrs, ym mhob tŷ newydd sy'n cael ei adeiladu yng Nghymru, ac yn rhoi clo ar yr aneffeithlonrwydd hwnnw am hyd at 100 mlynedd. Gan eich bod yn adolygu Rhan L y rheoliadau adeiladu eleni, a wnewch chi roi sicrwydd inni na fyddwch chi'n colli eich plwc eto?
Diolch, Llŷr Huws Gruffydd am y gyfres o gwestiynau. Ni allaf esgus bod—. Byddai'n dda gennyf fod â llawer mwy o arian i'w roi i bob un o'n cynlluniau Cartrefi Clyd. Rydych chi'n dweud mai'r addewid yn eich maniffesto chi oedd rhoi £3 biliwn—dros dair blynedd, rwy'n credu i chi ddweud—[Torri ar draws.]—nage, dros gyfnod hwy. Hynny yw, mae'n rhaid i chi ystyried o ble y deuai'r cyllid hwnnw. Nid yw fy nghyllideb i yn £1 biliwn y flwyddyn hyd yn oed, ac, yn amlwg, mae hynny ar draws yr adran i gyd. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr a byddwn yn dymuno rhoi mwy o arian i'r cynllun i ni allu ôl-osod llawer mwy o dai.
O ran y datgarboneiddio—ac anghofio'r agwedd Cartrefi Clyd—rwy'n gwybod, os ydym eisiau cyrraedd ein targed allyriadau carbon, fod angen inni roi llawer mwy o ymdrech yn ein cartrefi. Ond, unwaith eto, rydych chi'n dychwelyd at uchelgais, mae'n rhaid ichi fod yn ymarferol, mae'n rhaid ichi fod yn realistig. Rwy'n awyddus i fod yn uchelgeisiol, rwy'n awyddus i gael dyheadau, ond, yn yr un modd, mae'n rhaid inni fod yn ymarferol hefyd. Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr Arbed a Nyth lawer tro, nid yn unig ers imi fod yn y portffolio hwn, ond yn Aelod Cynulliad yn fy etholaeth i fy hun, ac ni allwn ond gwneud yr hyn a fedrwn â'r cyllid a'r adnoddau sydd gennym. Ond mae un farwolaeth yn un farwolaeth yn ormod, ac yn sicr nid ydym eisiau cael y niferoedd yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw yng Nghymru.
Credaf ei bod yn bwysig iawn fod gan y strategaeth hon ei tharged. Roeddech chi'n sôn am darged 2018, ac o edrych yn ôl, mae'n sicr nad oedd modd ei gyflawni, ac felly nid wyf i'n gweld diben cael targedau, yn arbennig pan fyddwch chi'n Weinidog ac yn meddwl, 'Wel, ni fyddaf yma ymhen 10 mlynedd', a gallwch addo unrhyw beth a fynnoch. Nid person felly ydw i ac nid wyf eisiau gwneud hynny. Ond rwyf yn credu, o fewn y strategaeth, fod angen gosod targedau realistig y gellir eu cyflawni.
Fe wnaethoch chi ofyn am Ran L y rheoliadau adeiladu—mae hynny'n cael ei ddatblygu erbyn hyn gan fy nghyd-Aelod Julie James. Yn sicr byddaf yn gofyn iddi hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n parhau i roi gwybod i'r Aelodau am y targedau sydd i'w cyflwyno.
Roeddech chi'n sôn am fesuryddion talu ymlaen llaw. Rwyf i o'r farn bod gormod o bobl yn talu gormod am yr anghenion ynni yn eu cartrefi, oherwydd yn syml eu bod nhw ar fesurydd talu ymlaen llaw. Pan edrychais i ar niferoedd y bobl sydd ar y mesuryddion hyn, tua 5 y cant ydyn nhw o'r perchen-feddianwyr. Yn y sector preifat, mae'r niferoedd yn cynyddu i 23 y cant ar gyfer mesuryddion talu ymlaen llaw am drydan, a 26 y cant ar gyfer nwy. Pan fyddwch yn ystyried tai cymdeithasol, mae'n codi i 46 y cant ar gyfer trydan a 44 y cant ar gyfer nwy. Gwn fod yn well gan rai pobl eu defnyddio nhw, ac mae hynny'n berffaith iawn, ac rwy'n gwybod mai'r rheswm am hynny yw eu bod yn ofni mynd i ormod o ddyled. Ond credaf fod yn rhaid inni wneud llawer mwy i gefnogi pobl i gael mynediad at dariffau fel y gallant fod ar y tariff gorau posib i wresogi eu cartrefi am bris fforddiadwy. Byddwch yn ymwybodol o gyflwyniad y cap ar fesuryddion talu ymlaen llaw, a wnaed yn dilyn argymhellion gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a chredaf fod hynny i'w groesawu'n fawr iawn. Serch hynny, rwyf wedi cael y trafodaethau hyn gyda'r cwmnïau ynni—a chredaf fod yn rhaid iddyn nhw wneud llawer mwy i roi cynnig llawer gwell i gwsmeriaid sy'n talu ymlaen llaw, yn arbennig y cwsmeriaid sy'n agored i niwed, i sicrhau nad yw'r cyflenwadau yn cael eu torri yn ystod misoedd y gaeaf, oherwydd gwn fod yna hunan ddatgysylltiad, a chredaf fod gan y cwmnïau ynni ddyletswydd foesol i wneud hynny.
Rwy'n diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'n amlwg bod nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Mae hi'n achos gofid hefyd ein bod ni'n gweld hynny ochr yn ochr â chynnydd yn nifer y banciau bwyd, a chynnydd mewn digartrefedd, a bod hyn yn ei hanfod yn arwydd o glefyd degawd o gyni. Fy ofn mawr i yw y bydd Brexit yn gwneud pethau'n waeth, yn llawer gwaeth. Fel mae pethau'n sefyll, caiff tua 5 y cant o drydan y DU a hyd at 12 y cant o'n nwy ei fewnforio o'r UE, felly byddai unrhyw dariffau neu rwystrau ar fewnforio yn gwthio'r costau i fyny, a chwsmeriaid, fel bob amser, fyddai'n talu'r bil hwnnw. Hefyd, mae'r gymdeithas fasnach ar gyfer diwydiant ynni Prydain, Energy UK, wedi rhybuddio y bydd biliau yn debygol o godi i aelwydydd o ganlyniad i'r ansicrwydd ynghylch a fydd Prydain yn parhau i fod yn rhan o system masnachu allyriadau'r UE, a cheir ansicrwydd mawr o ran pethau eraill hefyd. Er enghraifft, disgwylir y bydd y pedwar cebl pŵer sy'n cysylltu Prydain â'r cyfandir yn cael ychwanegiad o wyth arall atynt yn y dyfodol agos. A fydd y prosiect hwnnw'n cael ei ollwng, ac os felly, faint fydd hynny'n ei gostio i'r defnyddiwr? Fel y dywedodd Arglwydd Teverson, cadeirydd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE, ar ôl Brexit,
Bydd ymraniad ac ni fyddwn wedi ein hintegreiddio. Mae hynny'n golygu y bydd masnachu ynni yn mynd yn llai effeithlon ac y bydd prisiau manwerthu yn codi.
Rydym wedi gweld heddiw unwaith eto yr hyn a gafodd ei ddiystyried fel 'prosiect codi ofn' yn cael ei wireddu ledled y diwydiant ceir yn y DU a'r effaith ddinistriol a gaiff hynny ar y cymunedau hyn. Ond beth fydd cost Brexit i sector ynni ffyniannus Cymru, yn benodol y gweithredwyr allweddol yn Aberdaugleddau?
Ar bwynt i gloi, roeddech chi'n siarad am dystysgrifau perfformiad ynni o ran arolwg i gyflyrau tai Cymru. Mae llawer o'm hetholwyr i oddi ar y rhwydwaith ac maen nhw'n defnyddio tanwydd solet neu hylif nwy, ac mae hynny, wrth gwrs, yn llawer mwy costus. Ond seilir y tystysgrifau perfformiad ynni ar gostau rhedeg, ac nid yw hwnnw'n fesur dibynadwy o ran effeithlonrwydd ynni ar gyfer yr achosion penodol hynny. Rwy'n deall mai mater i Lywodraeth y DU yw strwythur y tystysgrifau perfformiad ynni, ond a gaf i ofyn i chi godi'r mater hwnnw gyda'ch Gweinidog cyfatebol yn San Steffan ac edrych ar yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i unioni'r hyn sy'n annhegwch sylfaenol?
Diolch, Joyce Watson, am y cwestiynau hynny a'ch sylwadau chi. Credaf eich bod yn llygad eich lle: mae degawd o gyni yn siŵr o fod yn effeithio ar nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Roeddech chi'n siarad am Brexit, ac rwyf innau'n bryderus, yn arbennig am effaith Brexit 'dim cytundeb' ar brisiau ynni'n benodol, unwaith eto yng nghyd-destun y ffactorau economaidd a allai godi hefyd pe byddai senario 'dim cytundeb'. Felly, rydym newydd ddechrau cael—. Byddwch chi'n ymwybodol o'r cyfarfodydd pedair ochrog yr wyf yn eu cael ar lefel amaethyddol gyda Michael Gove. Felly, rydym newydd gychwyn ar ymgysylltiad tebyg â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae Ken Skates a minnau wedi bod yn ceisio rhoi hyn ar waith ers cwpwl o flynyddoedd. Rydym newydd gael y cyfarfod cyntaf. Cafodd hwnnw ei gadeirio gan Claire Perry, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod ni wedi cael tynnu sylw at ein pryderon ni, yn enwedig ynglŷn â Brexit 'dim cytundeb'. Rhoddodd Llywodraeth y DU wybod inni ei bod wedi gwneud rhyw fath o asesiad ynglŷn â graddfa debygol y codiadau mewn prisiau. Nid ydyn nhw wedi rhannu'r wybodaeth honno â ni. Mae angen inni gael golwg ar y manylion hynny fel y gallwn ni weithio allan beth fydd unrhyw effeithiau posib ar bobl Cymru, a busnesau hefyd. Credaf fod llwyr angen hynny ar frys os ydym eisiau deall a chynllunio ar gyfer unrhyw effeithiau posib ar lefelau tlodi tanwydd yma yng Nghymru wrth inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Credaf fod angen hefyd ystyried prisiau ynni yng nghyd-destun yr effeithiau cronnol, ac ystyried y rhyngberthynas rhwng prisiau ynni ac effeithiau economaidd eraill a allai fod gennym ni wedi Brexit. Felly, o ran eich cwestiwn am dystysgrifau perfformiad ynni, byddaf yn sicr yn hapus iawn i ddwyn hynny gerbron gyda Claire Perry—os nad yn y cyfarfod pedair ochrog nesaf o'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol nesaf, byddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu ati.
Wel, rwy'n croesawu'r datganiad, ac wrth gwrs rwy'n llwyr o blaid y rhaglen Cartrefi Clyd. Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi buddsoddi £248 miliwn ynddi dros gyfnod o flynyddoedd. Mae hwn yn fuddsoddiad cost-effeithiol iawn yn ddiamau i gadw cartrefi pobl yn gynnes. Fel y nododd Llŷr Gruffydd yn gynharach, byddai methu â gwneud hyn yn effeithiol mewn cartrefi newydd yn creu effeithiau parhaol efallai am 100 mlynedd, sef oes yr eiddo. Felly, mae'r rheoliadau Rhan L yn elfen bwysig yn hyn o beth ac rwy'n sicr yn cefnogi'r achos a wnaeth ef dros wneud hwn yn faes blaenoriaeth i'r Llywodraeth ei wneud yn fwy effeithiol.
Yn sicr, y rhannau eraill o'r datganiad—bod sgôr tystysgrifau perfformiad ynni ar gyfartaledd yng Nghymru nawr ym mand D, ar ôl bod ym mand E 10 mlynedd yn ôl—mae hynny'n galonogol iawn. Rwy'n sicr yn gefnogol iawn i'r cynllun peilot ar gyflyrau iechyd, a hefyd y cynllun llawn dychymyg i helpu pobl gyda ffioedd galw allan i drwsio boeleri gwres canolog sydd wedi torri ac ati yn ystod y gaeaf. Mae'r mathau hynny o fân fesurau, yn fy marn i, yn ddymunol iawn ynddyn nhw eu hunain, yn gwbl ar wahân i unrhyw faterion cynhesu byd-eang sydd y tu ôl i'r polisïau hyn.
Felly, ydw, rwy'n croesawu hynny i gyd, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ond byddai'n fwy trawiadol pe na fydden nhw'n gwneud cymaint i'w achosi yn y lle cyntaf. Rydym wedi cael y dadleuon hyn lawer tro o'r blaen. Ond o gofio bod biliau trydan a nwy pobl 20 y cant yn uwch erbyn hyn na'r hyn ddylen nhw fod oherwydd trethi—ac, yn wir, mae cyfarwyddeb orfodi TAW yr UE yn ychwanegu 5 y cant yn ddiangen at filiau pobl, y byddwn yn gallu ei diddymu ar unwaith pan fyddwn yn gadael yr UE yn y pen draw—ceir cyfleoedd gwych yn sgil Brexit pe byddem ni'n adolygu ein safbwyntiau o ran polisïau'r UE ar gynhesu byd-eang, a fyddai'n bosibl i ni ei wneud ar ôl Brexit. Byddwn yn gallu sicrhau gostyngiad sylweddol ym miliau rhai o'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas.
Fel y nododd Mark Isherwood, y ffigurau yr ydym ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw yw 23 y cant o'r tai yng Nghymru mewn tlodi tanwydd sy'n gwario mwy na 10 y cant o'u hincwm—10 y cant o'u hincwm—ar gadw'n gynnes yn y gaeaf. Mae'r rhain yn ffigurau syfrdanol mewn gwlad ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain a ddylai fod yn un o'r gwledydd mwyaf datblygedig yn y byd. Credaf fod hynny'n adlewyrchiad cywilyddus o fethiant Llywodraethau olynol o bob plaid fod cynifer o'n dinasyddion yn dioddef yn y modd hwn a dylai hyn fod yn un o'n blaenoriaethau pennaf i weithredu arni.
Ond beth sy'n cael ei ennill oherwydd y polisïau hyn sy'n llwytho beichiau mawr o'r fath ar y bobl sydd leiaf abl i'w cario? Beth sy'n digwydd yng ngweddill y byd? Honnir y bydd cynnydd mewn allyriadau carbon deuocsid yn 2018—dim ond nawr mae'r ffigurau'n cael eu cyhoeddi—o 2.7 y cant. Dyna gynnydd mawr mewn allyriadau byd-eang o ystyried y cyfnod o sefydlogrwydd a gafwyd ers 2014-16, a'r cynnydd o 1 y cant a gafwyd yn 2017. O ble y daw hyn? Wel, yn ôl y Global Carbon Project, mae holl wledydd y byd yn cyfrannu at y cynnydd hwn, ac allyriadau yn Tsieina yn codi 4.7 y cant, yr Unol Daleithiau 2.5 y cant, ac India, yn syfrdanol, 6.3 y cant ar y flwyddyn flaenorol, a ysgogir yn bennaf gan dwf economaidd o 8 y cant, sy'n beth da ynddo'i hunan.
Caiff hyn ei ysgogi gan yr holl sectorau tanwydd hefyd. Yn India, er enghraifft, mae'r twf hwn o 6.3 y cant yn digwydd oherwydd cynnydd o 7.1 y cant yn y defnydd o lo, a chynnydd o 2.9 y cant yn y defnydd o olew, a chynnydd o 6 y cant yn y defnydd o nwy. Maen nhw'n mynd i'r cyfeiriad arall yn llwyr i'r un y mae'r Ysgrifennydd ynni'n dweud y dylai Cymru fynd. Mae Cymru yn cyfrannu 0.01 y cant i allyriadau carbon deuocsid byd-eang. Roedd y cynnydd mewn allyriadau a welwyd yn India y llynedd yn gyfystyr â phum gwaith hynny. Fe allem ni gau'r economi gyfan yng Nghymru i lawr, fe allem ni anfon yr holl boblogaeth o Gymru—yn wir fe allen nhw i gyd farw—a byddai Cymru heb unrhyw ôl-troed carbon. Byddai India yn canslo hynny oherwydd y cynnydd yn ei heconomi mewn 10 wythnos yn unig. Dyna'r pris y mae'r holl bobl mewn tlodi tanwydd yn ei dalu am 10 wythnos o gynnydd mewn allyriadau carbon yn India.
Rwyf i o'r farn mai polisi rhyfeddol o afresymol yw hwn ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac yn wir yr Undeb Ewropeaidd cyfan. UKIP yw'r unig blaid yn y Cynulliad hwn sy'n cynnig ffordd arall. Ein polisi ni yw sicrhau bod lles economaidd pobl, ac yn enwedig y bobl dlotaf mewn cymdeithas, yn dod yn gyntaf, nid polisïau llawn ffantasi am gynhesu byd-eang, na allwn ni wneud dim i'w newid.
Felly, dewch inni ddychwelyd at dlodi tanwydd, a Chartrefi Clyd. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi buddsoddi cymaint yn ein cynlluniau Cartrefi Clyd. Roeddech chi'n sôn am £248 miliwn ar ddiwedd mis Mawrth 2018. Erbyn diwedd tymor hwn y Cynulliad, bydd hynny'n £344 miliwn a bydd dros 75,000 o gartrefi wedi elwa ohonynt. Rydych yn sôn bob tro am—. Fel un sy'n amheus o newid hinsawdd, rydych chi'n sôn bob tro am Tsieina; rydych chi'n sôn bob tro am India. Ond, wyddoch chi, nid yw fy etholwyr i sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn awyddus i glywed am bolisïau UKIP a'r hyn y maen nhw'n dymuno ei wneud; polisïau llawn ffantasi yw'r rhain. Rydym ni'n cyflwyno rhaglenni Cartrefi Clyd sy'n helpu pobl mewn tlodi tanwydd. Roeddwn i wedi sôn—a gwn eich bod chi wedi dweud mai dyna'r peth iawn i'w wneud—am y ffi galw allan. Ni all pobl fforddio i alw peiriannydd allan i edrych ar foeler sydd wedi torri. Hunan-ddatgysylltu yw hynny, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl.
Diolch yn fawr iawn.