Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ar gyfer y Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019. Bydd y rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru roi cosbau penodol ar gyfer troseddau dyletswydd gofal o ran gwastraff cartref. Mae gan ddeiliaid tai gyfrifoldeb i sicrhau, pan fyddant yn trosglwyddo eu gwastraff i rywun arall i'w waredu, eu bod yn gludydd gwastraff cofrestredig. Os na, maen nhw'n peryglu cael eu herlyn. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthym nad erlyn deiliaid tai yw'r ymateb mwyaf priodol i'r math hwn o drosedd a gall hefyd fod yn broses feichus. Mewn ymateb, ac i helpu i fynd i'r afael â hyn, bûm yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno cosbau penodedig newydd, a gafodd gefnogaeth eang.
Gofynnodd ymatebwyr i'r ymgynghoriad hefyd am ddull cenedlaethol cyson o osod swm y gosb a bod lefel y gosb yn gymesur â'r tramgwydd. Dyna pam y cytunais i osod y gosb benodedig yn £300 ac rwyf wedi caniatáu i awdurdodau gorfodi gynnig ad-daliad cynnar o £150 yn ôl eu disgresiwn. Credaf fod y dull hwn yn sicrhau bod y cosbau penodedig yn gweithredu fel rhwystr digonol gan hefyd adlewyrchu'r pryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad. Gall awdurdodau lleol gadw eu derbyniadau er mwyn cyfrannu at y gost o ymdrin â throseddau gwastraff. Byddant hefyd yn gallu parhau i ddefnyddio pwerau erlyn troseddol am droseddau y maen nhw'n eu hystyried yn amhriodol ar gyfer cosb benodedig. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull cytbwys o orfodi ac yn disgwyl y bydd cosbau penodedig ond yn cael eu defnyddio pan fydd yr awdurdod gorfodi yn fodlon bod y dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni.
Dirprwy Lywydd, gwn fod tipio anghyfreithlon yn weithred wrthgymdeithasol a all fod yn falltod ar ein cymunedau ac yng nghefn gwlad, ac rwyf yn falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.