– Senedd Cymru am 5:05 pm ar 19 Chwefror 2019.
Eitem 6 ar yr agenda yw'r Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig hwnnw, Hannah Blythyn.
Cynnig NDM6970 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ar gyfer y Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019. Bydd y rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru roi cosbau penodol ar gyfer troseddau dyletswydd gofal o ran gwastraff cartref. Mae gan ddeiliaid tai gyfrifoldeb i sicrhau, pan fyddant yn trosglwyddo eu gwastraff i rywun arall i'w waredu, eu bod yn gludydd gwastraff cofrestredig. Os na, maen nhw'n peryglu cael eu herlyn. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthym nad erlyn deiliaid tai yw'r ymateb mwyaf priodol i'r math hwn o drosedd a gall hefyd fod yn broses feichus. Mewn ymateb, ac i helpu i fynd i'r afael â hyn, bûm yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno cosbau penodedig newydd, a gafodd gefnogaeth eang.
Gofynnodd ymatebwyr i'r ymgynghoriad hefyd am ddull cenedlaethol cyson o osod swm y gosb a bod lefel y gosb yn gymesur â'r tramgwydd. Dyna pam y cytunais i osod y gosb benodedig yn £300 ac rwyf wedi caniatáu i awdurdodau gorfodi gynnig ad-daliad cynnar o £150 yn ôl eu disgresiwn. Credaf fod y dull hwn yn sicrhau bod y cosbau penodedig yn gweithredu fel rhwystr digonol gan hefyd adlewyrchu'r pryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad. Gall awdurdodau lleol gadw eu derbyniadau er mwyn cyfrannu at y gost o ymdrin â throseddau gwastraff. Byddant hefyd yn gallu parhau i ddefnyddio pwerau erlyn troseddol am droseddau y maen nhw'n eu hystyried yn amhriodol ar gyfer cosb benodedig. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull cytbwys o orfodi ac yn disgwyl y bydd cosbau penodedig ond yn cael eu defnyddio pan fydd yr awdurdod gorfodi yn fodlon bod y dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni.
Dirprwy Lywydd, gwn fod tipio anghyfreithlon yn weithred wrthgymdeithasol a all fod yn falltod ar ein cymunedau ac yng nghefn gwlad, ac rwyf yn falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.
Hoffwn groesawu'r Gweinidog i'w rôl newydd a'i datganiad. Gweinidog, mae gennyf amheuon ynghylch y rheoliadau arfaethedig newydd hyn, a bydd UKIP yn pleidleisio yn eu herbyn heddiw. Fel y dywedwch, mae gennym broblem gynyddol â thipio anghyfreithlon, ac rydym o'r farn mai'r ffordd orau yw ei gwneud mor hawdd â phosib i bawb—yn drigolion a gweithredwyr masnachol—ddefnyddio tipiau'r cynghorau i waredu deunydd, sy'n cael ei ailgylchu wedyn. Gwyddom fod llawer o weithredwyr diegwyddor yn osgoi ffyrdd cyfreithiol o gael gwared ar sbwriel ac yn troi at y weithred ofnadwy o dipio anghyfreithlon, sy'n andwyo'r amgylchedd. Rhaid inni wneud yr hyn a allwn i gyfyngu ar yr arfer hwn, ond nid wyf yn siŵr y bydd cyflwyno rheoliad arall pan fo'r arfer eisoes yn anghyfreithlon yn mynd i wella pethau o reidrwydd.
Mae'n ymddangos i mi fod llawer o reolau gor-fiwrocrataidd ynghylch pwy all ddefnyddio'r tipiau'r cynghorau, yn hytrach, dylid ei wneud yn haws i bawb ddefnyddio'r cyfleusterau hyn—hynny yw, os mai'r nod yw lleihau gwastraff a chynyddu ailgylchu. Ond mae hyn yn ein drysu oherwydd mae gan gynghorau lleol y rheidrwydd masnachol i gynyddu ei refeniw drwy godi tâl ar bwy bynnag a allant i ddefnyddio'u cyfleusterau ailgylchu. Nid yw hyn ddim ond yn effeithio ar weithredwyr masnachol. Mae hefyd yn effeithio ar drigolion, sydd nawr, mewn llawer o ardaloedd, yn gorfod talu er mwyn i eitemau swmpus gael eu casglu. Ychydig flynyddoedd yn ôl, gellid trefnu'r casgliadau hyn am ddim.
Credaf, os ydym eisiau gweld mwy o ailgylchu, rhaid inni ymbellhau oddi wrth y syniad o godi tâl ar bobl neu fod angen iddynt ddangos prawf o'u cyfeiriad neu'n cael eu cyfyngu i hyn a hyn o ymweliadau i'r tip mewn blwyddyn galendr, y cyfan ohonynt bellach yn gyfyngiadau a osodir gan y rhan fwyaf o gynghorau ar bobl sy'n defnyddio'r depos ailgylchu. Os ydym eisiau gweld mwy o ddeunydd yn cael ei ailgylchu, mae'n well ein bod yn lleihau'r mân gyfyngiadau hyn fel y gall mwy o bobl ailgylchu mwy o ddeunydd mewn cyfleusterau sy'n cael eu cynnal gan y cynghorau. Felly, credwn fod llai o reoleiddio yn well o ran lleihau tipio anghyfreithlon, ac am y rhesymau hynny rydym yn gwrthwynebu'r rheoliadau newydd heddiw. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Diolch.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n synnu mewn gwirionedd. O'r hyn a ddywedwch, rydych yn cydnabod bod problem â thipio anghyfreithlon, eto i gyd nid ydych yn cefnogi'r rheoliadau, sy'n ceisio nid yn unig orfodi ond rhwystro hyn. Rydym yn falch o'n record ailgylchu yng Nghymru; dyna pam mai ni sy'n gyntaf yn y DU a thrydydd yn y byd. Ac rydym eisiau adeiladu ar hynny, a dyna pam y byddwn yn cyflwyno diweddariad o 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' yn ddiweddarach eleni, a hefyd byddwn yn ymgynghori ar Ran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a fydd yn gosod yr un cyfrifoldeb ar fusnesau a sefydliadau eraill i wahanu eu gwastraff ar gyfer casglu, fel y gwneir eisoes gan ddeiliaid tai mewn cymunedau a siroedd ar draws Cymru.
Dim ond i ailadrodd—. Sawl gwaith yr wyf wedi sefyll yma ac ymateb i Aelodau sydd â phryderon o ran tipio anghyfreithlon yn eu hardal leol—fe wyddoch, mae angen inni gymryd pa gamau bynnag y gallwn i fynd i'r afael â hynny. Gwyddom ei bod yn falltod ar ein cymunedau ac ar ein cefn gwlad hyfryd fel arall, a dyna pam mae angen dull cyfannol arnom sydd nid yn unig yn annog pobl i ailgylchu ond hefyd yn ysgogi newid ymddygiad. Felly rydym mewn gwirionedd yn lleihau'r malltod tipio anghyfreithlon ar ein gwlad. Byddwn yn gwahodd yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn, a fydd yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i gynnig y gallu i ryddhau atebolrwydd am euogfarn ar gyfer troseddau dyletswydd gofal yn ymwneud â gwastraff drwy dalu cosb benodedig. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly rydym yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon nes yr amser pleidleisio.