Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac fe agoraf y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Meilyr Rowlands am ei adroddiad blynyddol, yr un cyntaf sy'n seiliedig ar drefniadau arolygu newydd Estyn a gyflwynwyd ym mis Medi 2017. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr inni yn seiliedig ar ddadansoddiad Estyn o dystiolaeth o arolygiadau ynghylch perfformiad a safonau ledled Cymru. Fel Llywodraeth, byddwn yn defnyddio'r casgliad hwn o ddata i'n helpu i fonitro perfformiad, llywio polisi a chodi safonau addysgu a dysgu.
Mae'r prif arolygydd yn iawn i ddweud bod gan Gymru lawer i fod yn falch ohono. Mae'n arbennig o galonogol bod Estyn wedi darganfod bod y newid yn y diwylliant tuag at system sy'n fwy cydweithredol ac yn un sy'n annog hunan-welliant yn parhau i ddatblygu. Mae hyn yn hollbwysig os ydym yn dymuno parhau i godi safonau ar gyfer pob un o'n pobl ifanc. Mae'r adroddiad yn nodi bod y patrwm cadarnhaol yn parhau mewn meithrinfeydd nas cynhelir, ysgolion arbennig a gynhelir ac yn ein colegau addysg bellach. Ac mae'n galonogol iawn bod safonau yn dda neu'n well mewn naw o bob 10 o leoliadau y tu allan i'r ysgol ac yn gwella ar raddfa sy'n uwch na'r ganran a nodwyd y llynedd.
Mae'r safonau yn dda neu'n well hefyd mewn wyth o bob 10 ysgol gynradd—sy'n gynnydd ar nifer y llynedd—gyda mwy ohonynt yn mynd ymlaen i gael eu barnu i fod yn rhagorol. Mae'r gwelliannau yn yr hanfodion, megis presenoldeb a llythrennedd sylfaenol dros y blynyddoedd diwethaf, i'w croesawu ac maent yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwelliannau cyffredinol ar draws ein sector cynradd. Er hyn, wrth nodi bod hanner ein hysgolion uwchradd yn parhau i gynnal eu safonau o fod yn dda neu'n well, rwy'n derbyn bod hynny'n golygu nad yw hanner yr ysgolion yn cyflawni hynny, a chredaf nad yw hynny'n dderbyniol, ac mae angen gwella. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod llawer o waith i'w wneud.
Mae pump y cant o ysgolion cynradd a 15 y cant o ysgolion uwchradd wedi cael eu nodi fel rhai sydd angen gwelliant sylweddol neu o fod mewn mesurau arbennig. Credaf mai'r her i'r system yw sicrhau bod ysgolion sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi'n gynharach a'n bod yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion a'r proffesiwn fel y gallwn ymdrin â'r materion hyn. Mae'r ffaith fod ysgolion yn cael eu gosod yng nghategori statudol Estyn flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nodi, fel y dywedais, fod angen gwneud mwy i nodi'r ysgolion sy'n peri pryder yn gynharach, ac yna, yn hollbwysig, ddarparu cymorth priodol i'w galluogi i wella.
Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac yn nodi dulliau newydd y gellid eu rhoi ar waith i ddarparu cymorth i wneud gwelliannau yn yr ysgolion hyn. Mae'n galonogol bod ein polisïau megis y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, a datblygiad parhaus y cwricwlwm newydd, wedi hwyluso'r cynnydd ac wedi gwella profiadau addysgu a dysgu i ddisgyblion. Cynlluniwyd y safonau proffesiynol, sydd wedi eu gwreiddio mewn addysgeg, i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu mewn ffordd a fydd yn eu paratoi i wynebu heriau'r dyfodol.
Rwyf hefyd yn falch o nodi bod ysgolion a cholegau wedi ymateb yn gadarnhaol i newidiadau yn y cyrsiau TGAU Saesneg, Cymraeg a mathemateg. Fodd bynnag, rwyf yn cydnabod bod y ddarpariaeth ar gyfer bagloriaeth Cymru yn fwy amrywiol. Mae bagloriaeth Cymru yn rhan allweddol o'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau drwy wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc. Cafodd ei chynllunio i roi profiad ehangach i bobl ifanc na'r hyn y maent yn ei gael yn arferol drwy eu haddysg academaidd draddodiadol. Mae ymdrech benodol i wella trefniadau gweithredu bagloriaeth Cymru yn cael eu gwneud drwy gydweithio parhaol grŵp partneriaeth sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC, gan gynnwys camau gweithredu ar y maes allweddol o egluro disgwyliadau ar gyfer myfyrwyr ar wahanol lefelau.
Fel y gwŷr pob un ohonom yn y Siambr hon, mae cysylltiad cryf rhwng lles a deilliannau addysgol. Croesawaf felly fod lles ac agweddau tuag at ddysgu yn dda neu'n rhagorol mewn dwy ran o dair o'n hysgolion uwchradd ac wedi eu nodi fel cryfder yn ein sector cynradd. Mae'n hanfodol bod pob ysgol yn datblygu ethos i gefnogi iechyd meddwl a lles ehangach eu dysgwyr, a fydd yn ei dro yn helpu i atal datblygiad neu gynnydd nifer o faterion eraill, gan gynnwys materion iechyd meddwl.
Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau addysg i bobl ifanc. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd a fydd yn cefnogi gwella ysgolion a chodi safonau ymhellach. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ynghylch y trefniadau hyn. Mae hyn yn cynnwys y gwaith fydd yn deillio o argymhellion o fewn adroddiad annibynnol Estyn, 'Arolygiaeth Dysgu'. Bydd symud tuag at y model newydd hwn o werthuso a gwella yn dod â ni'n agosach at systemau sy'n perfformio'n dda ar draws y byd, a bydd yn cefnogi'r arolygiaeth i ddarparu'r sicrwydd bod safonau yn cael eu cyflawni wrth gefnogi ysgolion i gynnal gwelliant ar yr un pryd. Mae'r polisïau a roddwyd ar waith gennym ni yn helpu i ysgogi gwelliannau, ond mae'n bwysig ein bod yn cynnal y momentwm i sicrhau gwelliannau pellach a chyson, yn ogystal â chefnogi ysgolion drwy gyfnod o ddiwygio addysg sylweddol.
Dirprwy Lywydd, rwyf yn ddiolchgar iawn i athrawon, arweinwyr a rheolwyr ledled y sector am eu hymdrechion parhaus a'u cyfraniadau. Rydym i gyd yn rhannu'r un uchelgais: uchelgais o godi safonau, lleihau bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn un sy'n ennyn hyder pobl Cymru.