– Senedd Cymru ar 19 Chwefror 2019.
Eitem 7 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad blynyddol Estyn, 2017-18, a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig — Kirsty Williams.
Cynnig NDM6969 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.
2. Croesawu bod y 'newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym'.
3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.
4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac fe agoraf y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Meilyr Rowlands am ei adroddiad blynyddol, yr un cyntaf sy'n seiliedig ar drefniadau arolygu newydd Estyn a gyflwynwyd ym mis Medi 2017. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr inni yn seiliedig ar ddadansoddiad Estyn o dystiolaeth o arolygiadau ynghylch perfformiad a safonau ledled Cymru. Fel Llywodraeth, byddwn yn defnyddio'r casgliad hwn o ddata i'n helpu i fonitro perfformiad, llywio polisi a chodi safonau addysgu a dysgu.
Mae'r prif arolygydd yn iawn i ddweud bod gan Gymru lawer i fod yn falch ohono. Mae'n arbennig o galonogol bod Estyn wedi darganfod bod y newid yn y diwylliant tuag at system sy'n fwy cydweithredol ac yn un sy'n annog hunan-welliant yn parhau i ddatblygu. Mae hyn yn hollbwysig os ydym yn dymuno parhau i godi safonau ar gyfer pob un o'n pobl ifanc. Mae'r adroddiad yn nodi bod y patrwm cadarnhaol yn parhau mewn meithrinfeydd nas cynhelir, ysgolion arbennig a gynhelir ac yn ein colegau addysg bellach. Ac mae'n galonogol iawn bod safonau yn dda neu'n well mewn naw o bob 10 o leoliadau y tu allan i'r ysgol ac yn gwella ar raddfa sy'n uwch na'r ganran a nodwyd y llynedd.
Mae'r safonau yn dda neu'n well hefyd mewn wyth o bob 10 ysgol gynradd—sy'n gynnydd ar nifer y llynedd—gyda mwy ohonynt yn mynd ymlaen i gael eu barnu i fod yn rhagorol. Mae'r gwelliannau yn yr hanfodion, megis presenoldeb a llythrennedd sylfaenol dros y blynyddoedd diwethaf, i'w croesawu ac maent yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwelliannau cyffredinol ar draws ein sector cynradd. Er hyn, wrth nodi bod hanner ein hysgolion uwchradd yn parhau i gynnal eu safonau o fod yn dda neu'n well, rwy'n derbyn bod hynny'n golygu nad yw hanner yr ysgolion yn cyflawni hynny, a chredaf nad yw hynny'n dderbyniol, ac mae angen gwella. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod llawer o waith i'w wneud.
Mae pump y cant o ysgolion cynradd a 15 y cant o ysgolion uwchradd wedi cael eu nodi fel rhai sydd angen gwelliant sylweddol neu o fod mewn mesurau arbennig. Credaf mai'r her i'r system yw sicrhau bod ysgolion sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi'n gynharach a'n bod yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion a'r proffesiwn fel y gallwn ymdrin â'r materion hyn. Mae'r ffaith fod ysgolion yn cael eu gosod yng nghategori statudol Estyn flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nodi, fel y dywedais, fod angen gwneud mwy i nodi'r ysgolion sy'n peri pryder yn gynharach, ac yna, yn hollbwysig, ddarparu cymorth priodol i'w galluogi i wella.
Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac yn nodi dulliau newydd y gellid eu rhoi ar waith i ddarparu cymorth i wneud gwelliannau yn yr ysgolion hyn. Mae'n galonogol bod ein polisïau megis y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, a datblygiad parhaus y cwricwlwm newydd, wedi hwyluso'r cynnydd ac wedi gwella profiadau addysgu a dysgu i ddisgyblion. Cynlluniwyd y safonau proffesiynol, sydd wedi eu gwreiddio mewn addysgeg, i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu mewn ffordd a fydd yn eu paratoi i wynebu heriau'r dyfodol.
Rwyf hefyd yn falch o nodi bod ysgolion a cholegau wedi ymateb yn gadarnhaol i newidiadau yn y cyrsiau TGAU Saesneg, Cymraeg a mathemateg. Fodd bynnag, rwyf yn cydnabod bod y ddarpariaeth ar gyfer bagloriaeth Cymru yn fwy amrywiol. Mae bagloriaeth Cymru yn rhan allweddol o'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau drwy wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc. Cafodd ei chynllunio i roi profiad ehangach i bobl ifanc na'r hyn y maent yn ei gael yn arferol drwy eu haddysg academaidd draddodiadol. Mae ymdrech benodol i wella trefniadau gweithredu bagloriaeth Cymru yn cael eu gwneud drwy gydweithio parhaol grŵp partneriaeth sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC, gan gynnwys camau gweithredu ar y maes allweddol o egluro disgwyliadau ar gyfer myfyrwyr ar wahanol lefelau.
Fel y gwŷr pob un ohonom yn y Siambr hon, mae cysylltiad cryf rhwng lles a deilliannau addysgol. Croesawaf felly fod lles ac agweddau tuag at ddysgu yn dda neu'n rhagorol mewn dwy ran o dair o'n hysgolion uwchradd ac wedi eu nodi fel cryfder yn ein sector cynradd. Mae'n hanfodol bod pob ysgol yn datblygu ethos i gefnogi iechyd meddwl a lles ehangach eu dysgwyr, a fydd yn ei dro yn helpu i atal datblygiad neu gynnydd nifer o faterion eraill, gan gynnwys materion iechyd meddwl.
Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau addysg i bobl ifanc. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd a fydd yn cefnogi gwella ysgolion a chodi safonau ymhellach. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ynghylch y trefniadau hyn. Mae hyn yn cynnwys y gwaith fydd yn deillio o argymhellion o fewn adroddiad annibynnol Estyn, 'Arolygiaeth Dysgu'. Bydd symud tuag at y model newydd hwn o werthuso a gwella yn dod â ni'n agosach at systemau sy'n perfformio'n dda ar draws y byd, a bydd yn cefnogi'r arolygiaeth i ddarparu'r sicrwydd bod safonau yn cael eu cyflawni wrth gefnogi ysgolion i gynnal gwelliant ar yr un pryd. Mae'r polisïau a roddwyd ar waith gennym ni yn helpu i ysgogi gwelliannau, ond mae'n bwysig ein bod yn cynnal y momentwm i sicrhau gwelliannau pellach a chyson, yn ogystal â chefnogi ysgolion drwy gyfnod o ddiwygio addysg sylweddol.
Dirprwy Lywydd, rwyf yn ddiolchgar iawn i athrawon, arweinwyr a rheolwyr ledled y sector am eu hymdrechion parhaus a'u cyfraniadau. Rydym i gyd yn rhannu'r un uchelgais: uchelgais o godi safonau, lleihau bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn un sy'n ennyn hyder pobl Cymru.
Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn gwneud digon o gynnydd.
2. Yn gresynu nad yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.
3. Yn gresynu at y gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliant.
Hoffwn ddweud ar gyfer y cofnod, serch hynny, na chafodd ei fwriadu i fod yn welliant 'dileu popeth', ond dyna sydd gennym, ac felly symudwn ymlaen ar y sail hwnnw.
A gaf i hefyd ategu'r teimladau a fynegwyd yng ngwelliant cyntaf Plaid? Mae unrhyw welliant i'w groesawu am ei effaith ar y bobl ifanc unigol sy'n elwa ohono, yn ogystal â staff yn yr ysgolion.
Roeddwn yn awyddus i ddechrau yn fyr gyda'r gostyngiad yn nifer y lleoliadau sy'n cynnig addysg ar gyfer plant tair a phedair oed. Caf fy siomi bob amser fod rhai cynghorau yng Nghymru wedi dewis cyfyngu'r cynnig hwn i feithrinfeydd y cyngor yn unig, a gall hyn fod yn rhannol gyfrifol am y gostyngiad. Ond rwyf hefyd yn pryderu am y gostyngiad yn nifer y lleoliadau ar adeg pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r cynnig o 30 awr o ofal plant i rieni sy'n gweithio mwy nag 16 awr. Yn ogystal â rhagweld cynnydd yn y galw, beth am y plant sydd ond yn gallu cael 10 awr o addysg, gan fod eu rhieni'n gweithio 15 awr yn hytrach nag 16? Mae angen iddynt ddod o hyd i bum awr arall o ofal plant, yn yr un lleoliad â'r addysg a gynigir, os oes modd, ond wrth gwrs, rhaid iddynt dalu amdano. Dyma hefyd y lle ar gyfer egino hadau'r polisi 1 miliwn o siaradwr Cymraeg, felly efallai fod modd i'r Gweinidog roi ei barn inni ar hynny.
Mae pwynt 4 yn ein gwelliant yn gyfle i'r Gweinidog rannu â ni am y modd y rheolir o fewn y Llywodraeth y proffil risg a'r rheolaeth ariannol sy'n gysylltiedig â pholisïau sydd â'r nod o wella ysgolion. Y consortia a'r awdurdodau lleol, yn gweithio gyda'i gilydd, sydd i fod i yrru gwelliant ysgolion. Dim ond cyfeiriad byr sydd atynt yn yr adroddiad hwn, ond y prif ganfyddiad ynddo yw, o ganlyniad i amrywiaeth o fethiannau mewn un consortiwm, fod y gwelliant mewn ysgolion uwchradd yn rhy araf ac yn peri pryder. Ond, nid yw trafferthion penodol mewn un consortiwm yn esbonio'r amrywiad gwyllt ym mherfformiad ysgolion ledled Cymru. Rhaid derbyn bod peth amrywioldeb. Gwelir hynny o fewn ysgolion yn ogystal â rhwng ysgolion—un o ganfyddiadau'r OECD yn ei adroddiad yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, ac nid yw hynny wedi newid ryw lawer. Felly, wrth longyfarch yr ysgolion hynny sydd â staff brwdfrydig yn cael eu harwain yn dda a dysgwyr hapus sy'n cyflawni eu potensial, ni allwn adael i hynny guddio'r pegwn arall lle mae nifer sylweddol iawn o ddysgwyr sydd heb gyflawni, yn y ffordd a amlygwyd gennym yn nau bwynt cyntaf ein gwelliant.
Yn awr, fel y dywedwch, Gweinidog, mae 5 y cant o ysgolion cynradd a 15 y cant o ysgolion uwchradd mewn mesurau arbennig neu angen gwelliant sylweddol. Mae'r rheini'n ganrannau eithaf uchel pan ydym yn sôn am isafbwynt perfformiad, ac nid yw'r pryderon hyn yn newydd. Felly, sut mae'r archwilio a rheoli risg o fewn eich adran chi wedi eich helpu i wella monitro a gwerthuso polisi cynllunio a gweithredu? Yn fyr, beth ydych chi wedi ei newid o ganlyniad i'r gwaith hwnnw?
Gyda dim ond 8 y cant o'n hysgolion cynradd yn cael eu hystyried i fod yn rhagorol o ran safonau, pam mae 88 y cant ohonynt yn cael eu categoreiddio fel gwyrdd ac angen y lefel isaf o gymorth arnynt? Dim ond prin hanner ein hysgolion uwchradd sy'n dda, heb sôn am fod yn rhagorol, eto i gyd bydd 78 y cant ohonynt ond yn cael 10 diwrnod neu lai o gymorth. Sut y daethpwyd i'r sefyllfa lle mai dim ond traean o'n hysgolion pob oedran—y fformat ffasiynol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth bellach—a farnwyd i fod yn dda am arweinyddiaeth a rheolaeth, heb sôn am safonau, ac addysgu a dysgu—dim ond traean ohonynt. Nid oedd yr un ysgol ragorol.
Dengys yr adroddiad hwn y gall unrhyw un o'n hysgolion fod yn rhagorol ar draws y pum maes arolygu er gwaethaf y ddemograffeg a'r heriau eraill sy'n eu hwynebu. Felly pam mai dim ond ychydig o'n hysgolion cynradd sy'n cyflawni hynny, a sut mae gennym y fath eithafion rhwng llwyddiant a methiant yn y sector uwchradd? Nid yw'n cyd-fynd â'r categoreiddio. Nid yw'n cyfateb â'r ffaith bod angen arolwg dilynol ar hanner ein hysgolion, ac er gwaethaf rhai canlyniadau dymunol iawn, iawn, fel y dywedasoch, ynglŷn â lles, nid yw hynny o reidrwydd yn cyd-fynd â safonau uwch, gan fod Estyn yn dweud nad ydych yn gweld hynny heblaw pan fydd yr ysgolion yn eithriadol o gryf o ran lles.
Ond erbyn hyn credaf fod y brys mwyaf yn ymwneud â hunanarfarnu. Dywedodd yr OECD fod gennym broblemau gyda hyn o'r blaen, ac mae'n hollol amlwg bod gormod o lawer o ysgolion ac arweinwyr ysgolion yn cael trafferth gyda hyn hyd yn oed yn awr—hanner yr ysgolion uwchradd. Dyma'r ysgolion yr ydych chi'n gofyn iddynt gymryd cymwysterau newydd a chwricwlwm newydd, cwricwlwm newydd a gafodd ei herio unwaith eto heddiw yn y Times Educational Supplement, cwricwlwm sy'n ddibynnol ar hunanarfarnu a hunanwella o fewn ysgolion i gyflawni ei nodau, ac fe ddywedasoch fod hynny'n hanfodol.
Os yw'r newid tuag at ddiwylliant o hunan-welliant, fel yr hawliwyd, yn symud yn gyflym, pam nad yw'r safonau'n gwella'r un mor gyflym? Dywed Estyn ei bod yn parhau i fod yn wir, er gwaethaf mentrau amrywiol, gan gynnwys bandio a chategoreiddio, nad yw'r ysgolion hyn—y rhai sy'n perfformio'n wael—yn cael eu nodi'n ddigon cynnar, ac nad oes digon yn cael ei wneud i'w cefnogi. Fe ddywedasoch hynny yn eich sylwadau agoriadol, a dywedasoch eich bod ar hyn o bryd yn ystyried sut.
Gweinidog, mae gennych y pwerau i ymyrryd er mwyn chwyldroi'r ysgolion, y cynghorau a'r consortia hyn, sy'n parhau i fethu'r plant. Defnyddiwch nhw os gwelwch yn dda.
Diolch. A gaf i alw ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth?
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi adroddiad Donaldson ar Estyn, Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn a gyhoeddwyd yn Mehefin 2018, ac sydd heb dderbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd yma.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Cut to the Bone?' sy’n cadarnhau bod gwariant ysgol yn 2017-18 £324 y disgybl yn is mewn termau real na’r ffigwr cyfatebol yn 2009-10.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi llythyr agored ASCL Cymru a’i sylwadau fod yna argyfwng cyllid difrifol mewn ysgolion yng Nghymru sydd yn cael effaith andwyol ar bobl ifanc Cymru.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion.
Diolch yn fawr, a dwi'n symud y gwelliannau hynny.
Diolch yn fawr am y cyfle i drafod canfyddiadau adroddiad Estyn 2017-18. Mae sefyllfa ein hysgolion uwchradd yn fater o bryder mawr, gyda disgyblion mewn hanner ein hysgolion uwchradd, sef mewn tua 100 o ysgolion, yn cael eu gadael i lawr. Hynny yw, dydy'r plant ddim yn cyrraedd eu llawn botensial erbyn iddyn nhw adael yr ysgol.
Mae hyn yn sobor i bob un person ifanc sy'n cyrraedd y sefyllfa honno, ac mae o hefyd yn sobor o ran ffyniant y genedl yn gyffredinol. Mae Cymru angen cyfundrefn addysg o'r radd flaenaf er lles y genedl a chenedlaethau'r dyfodol. Dim ond 195 ysgol uwchradd sydd yna yng Nghymru. Dydy hyn ddim yn rhif anferth, ac mae'n rhaid felly fod yna rywbeth mawr o'i le nad oes modd sicrhau safonau cyrhaeddiad uwch a chyson ar draws Cymru. Y cwestiwn pwysig ydy: sut mae gwella'r sefyllfa?
Mi nododd prif arolygydd Estyn yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn Rhagfyr y llynedd fod angen gwneud tri pheth. Yn gyntaf, mae angen adnabod yr ysgolion yn gynt, hynny yw, yr ysgolion sy'n tanberfformio. Yn ail, mae angen gwneud yn siŵr eu bod nhw yn cael gwell cefnogaeth ac, yn drydydd, mae angen cydgordio'r gefnogaeth maen nhw'n ei chael ar hyn o bryd yn well.
Dwi'n mynd i hoelio sylw ar y trydydd pwynt yma, sydd yn hollbwysig, dwi'n meddwl, ac yn haeddu sylw. Ar hyn o bryd, mae cymaint o haenau yn y system—yr ysgolion eu hunain a'u timau rheoli, y llywodraethwyr, yr awdurdodau lleol, y consortia ac adran addysg Llywodraeth Cymru—pwy sydd yn cymryd y cyfrifoldeb? Ydy o'n gyfrifoldeb i bawb, ac i neb, yn y pen draw? Mae hyn yn bryder. Mae angen gwella atebolrwydd yn y system drwyddi draw a hynny ar frys, ac mae angen adolygu'r trefniadau a'r angen am yr holl haenau er mwyn gwneud cydgordio'r gefnogaeth yn well, sef un o amcanion y prif arolygydd.
Troi at adroddiad Donaldson ar yr arolygiaeth dysgu—prif fyrdwn hwnnw oedd y dylai fod gan Estyn fwy o rôl o ran cefnogi'r broses o wella ysgolion. Hynny yw, y dylai Estyn fod yn fwy gweithredol yn yr ymateb, yn hytrach na dim ond yn y diagnosis. Ac mae yna ddadleuon o blaid ac yn erbyn hynny, a'r bore yma, fe gafwyd datganiad gan y Llywodraeth yn dweud eu bod nhw yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad yna.
Ond un cyhoeddiad heddiw sydd wedi dychryn pawb ydy hwn, sef y bydd yna fwy o arolygiadau, ac Estyn, nid Donaldson, sydd wedi sôn am hyn. Mae o wedi llwyddo i gynddeiriogi bron pawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Doedd yna ddim cyfeiriad at hyn yn adroddiad Donaldson, hyd y gwelaf i, ac os rhywbeth, mae'r adroddiad yn rhoi'r argraff mai symud i'r cyfeiriad arall sydd angen, efo'r pwyslais ar ddilysu hunanarfarnu, nid ar fwy o arolygu. Ond mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion, ac felly, os ydy'r Llywodraeth am weld Estyn yn rhoi mwy o gefnogaeth i'n hysgolion ni, yna mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: beth ydy pwrpas y consortia? Mae'n rhaid edrych o ddifri ar eu rôl nhw os ydy Estyn yn mynd i fod yn cymryd rhai o'r cyfrifoldebau drosodd.
Un arall o ganfyddiadau Estyn oedd hyn: mae arweinyddiaeth yn ddigonol ac angen gwelliant mewn pedair o bob 10 ysgol, ac yn anfoddhaol mewn rhyw un o bob 10 ysgol. Mae'r ymyrraeth sy'n dod o wahanol gyfeiriadau yn gwneud swydd pennaeth yn un anodd iawn. Dyma reswm arall dros greu llai o haenau yn y system, a chreu llinellau atebolrwydd cadarn drwyddi draw. A dwi ddim yn credu y gellir edrych ar y problemau sy'n cael eu hamlygu gan adroddiad Estyn heb edrych ar y cyd-destun ehangach sy'n wynebu ein hysgolion a'n hathrawon. Does yna ddim dwywaith fod y proffesiwn dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, a fedrwn ni ddim sôn am godi safonau heb sôn am gyllid ac adnoddau. Yn ôl y Llywodraeth ei hun, mae diffyg yng nghyllideb dwy o bob pum ysgol a arolygwyd. Mae'n rhaid inni unioni'r sefyllfa yma, ac mae angen i'r Llywodraeth gynnal adolygiad brys o gyllido ysgolion. Ydy'r lefel cyllido yn ddigonol? A beth am y sleisen o'r gacen sy'n mynd at addysg? Oes digon ohono yn mynd at ein hysgolion? Gobeithio y bydd y drafodaeth prynhawn yfory yn amlygu rhai o'r problemau yma a bod gwaith y pwyllgor plant a phobl ifanc hefyd yn bwydo i'r drafodaeth honno.
Dwi'n gorffen ar hyn: gwaith y Llywodraeth yma ydy edrych yn hir ac yn galed ar y dystiolaeth a dod i gasgliadau a gweithredu yn ôl y dystiolaeth.
Hoffwn ddiolch i Brif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru am ei adroddiad blynyddol. Mae'n gerdyn adroddiad ar berfformiad system addysg Cymru, ac ymddengys nad ydym yn gwneud yn ddigon da. Er y bernir bod wyth o bob 10 o ysgolion cynradd yn dda neu'n well, dim ond 8 y cant o ysgolion cynradd Cymru a fernir yn ysgolion rhagorol. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu cael mynd i ysgol ragorol, ac ni ddylai safon eich addysg ddibynnu ar ble mae eich rhieni yn dewis byw, os oes ganddynt ddewis. Mae llawer o deuluoedd heb y dewis hwnnw hyd yn oed.
Ac mae'r rhagolygon ar gyfer ein hysgolion uwchradd yn fwy llwm o lawer—dim ond tua hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru a fernir i fod yn dda neu'n well, ac roedd angen camau dilynol ar hanner yr ysgolion uwchradd a arolygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf tra rhoddwyd dwy mewn mesurau arbennig. Y broblem, yn ôl yr Athro David Reynolds, cyn gynghorydd addysg i Lywodraeth Cymru a'r DU, yw ein bod yn cyflwyno cwricwlwm newydd ar yr un pryd â'r ymgais i wella safonau mewn system lle nad yw popeth yn wych o'i chymharu â safonau rhyngwladol. Mae safonau wedi gwella ychydig, ac wrth gwrs mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae gennym un o'r systemau addysg sy'n perfformio waethaf yn y byd. Rydym yn siomi cenedlaethau'r dyfodol ac yn condemnio ein hunain i nychu ar waelod y tablau cynghrair economaidd. Rydym yn atal hanner pobl ifanc Cymru rhag cyflawni eu gwir botensial. Rydym yn gwybod ers blynyddoedd nad ydym yn helpu ein dysgwyr disgleiriaf, ond, fel yr amlygwyd gan adroddiad y prif arolygydd, nid ydym yn cyfarfod ag anghenion disgyblion ar draws pob ystod oedran a galluoedd.
Cefais y pleser o fod yn bresennol yn agoriad swyddogol Ysgol Carreg Hir yn fy rhanbarth i, ysgol gynradd newydd sy'n deillio o uno tair ysgol gynradd: Bryn Hyfryd ac Ynysymaerdy, ac un a oedd mewn mesurau arbennig, Llansawel. Rhaid imi ddweud fy mod wedi fy mhlesio'n fawr gydag adeiladau'r ysgol newydd, y staff a'r disgyblion. Mae'r disgyblion fel petaent yn ffynnu yn yr amgylchedd newydd, ac roedd hyn yn ffafriol i'w dysgu ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr ysgol newydd yn llawer gwell na'i gwahanol rannau, ac y bydd, diolch i'r staff, disgyblion a rhieni, yn cael ei barnu'n rhagorol pan ddaw arolygwyr Estyn i ymweld â hi.
Fodd bynnag, nid yw ein plant a'n pobl ifanc i gyd yn ddigon ffodus o gael amgylcheddau dysgu modern. Mae llawer iawn o ddisgyblion yn cael eu gwasgu i ddosbarthiadau sy'n dadfeilio gydag offer sy'n hen-ffasiwn ac wedi torri. Mae athrawon a disgyblion fel ei gilydd yn gwneud eu gorau, ond mae tanfuddsoddi enfawr a thoriadau yn y gyllideb wedi gadael eu hôl. Cyfarfûm yn ddiweddar â phennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd i drafod dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont. Cafodd yr ysgol adroddiad da gan Estyn a sgoriodd bum seren yn y 'Real Schools Guide', ond esboniodd ei bod yn mynd yn anoddach ac yn anoddach ymestyn y gyllideb i fynd mor bell ag sydd ei angen er mwyn cynnal y safonau hyn. Mae'r diffygion yn yr adeiladau a'r tanfuddsoddi dirfawr yn gadael eu hôl, ac nid yw ei brofiad ef yn unigryw o bell ffordd. Mae'r gwariant fesul disgybl lawer is nag yn Lloegr neu'r Alban, ac mae wedi gostwng dros £300 yn ystod y degawd diwethaf. Does dim syndod fod Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru wedi eu gorfodi i ysgrifennu am yr argyfwng ariannu difrifol ac effaith hynny ar ysgolion Cymru.
Yn anffodus, os na fyddwn yn datrys yr argyfwng ariannu, bydd mwy a mwy o ysgolion yn sicr o fethu. Mae pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu cael mynychu ysgol ragorol fel Ysgol Carreg Hir, yn haeddu derbyn addysg o'r radd flaenaf ac yn haeddu cael eu meithrin a'u herio i ddarganfod eu gwir botensial. Felly, dylai'r adroddiad hwn gan Estyn ein deffro, gan ein bod yn methu pobl ifanc Cymru mewn llawer o ardaloedd, ac mae'r cerdyn adroddiad yn dweud, 'rhaid gwneud yn well.'
Galwaf ar y Gweinidog Addysg i ymateb i'r ddadl—Kirsty Williams.
A gaf i ddechrau, Dirprwy Lywydd, drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad y prynhawn yma? Os caf i ddechrau drwy ymdrin â rhai o'r sylwadau a wnaed gan Suzy Davies, nid fi yw'r un sy'n hawlio bod y diwylliant o gydweithrediad a hunanwelliant yn symud yn gyflym. Dyna adroddodd y prif arolygydd ei hun, a'r symudiad hwnnw tuag at athrawon yn gweithio gydag athrawon eraill yn eu hysgol eu hunain ac ysgolion yn gweithio gydag ysgolion eraill yn y diwylliant hwnnw o gydweithio a hunanwelliant fydd mewn gwirionedd yn ysgogi'r canlyniadau. Nid ymyrraeth o'r brig i lawr gan y Llywodraeth yn unig sy'n gallu symud y system a symud y nodwydd yn y ffordd y mae'n rhaid i ni ei wneud.
Nawr, mae'r Aelod yn iawn i ddweud ein bod ni'n rhoi mwy o bwyslais ar hunanwerthuso, ac yn y gorffennol, nodwyd gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd nad yw hyn wedi bod yn gryfder yn ein system. A dyna pam mae Estyn yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i lunio pecyn cymorth hunanarfarnu i sicrhau bod cysondeb yn yr ymagwedd at hunanwerthuso ar draws y system addysg yng Nghymru a bod y cysondeb hefyd yn ymagwedd gadarn at hunanarfarnu. A diben arolygiaeth ddiwygiedig yw i Estyn allu dilysu gwaith hunanwelliant ysgol. Os yw Estyn yn ffyddiog bod yr ysgol honno yn gwneud hyn yn dda a bod eu hunanarfarnu yn gadarn ac yn ysgogi newid, yna bydd gan yr ysgol honno fwy o ymdeimlad o fod wedi haeddu awtonomiaeth cyn bydd Estyn yn dod yn ôl. Petai gan Estyn bryderon ynglŷn â'r ymagwedd honno, yna fe fydden nhw yn ôl yn yr ysgol yn amlach, a dyna sut y byddwn ni'n ysgogi'r system i symud ymlaen.
Nawr, gwnaeth yr Aelod bwynt ynghylch lleoliadau nas cynhelir, ac nid yw'r adroddiad ei hun yn dweud pa un a yw'r gostyngiad yn y niferoedd yn beth da neu'n beth gwael. Beth y mae'n ei ddweud—ac mae'r Aelod yn iawn i nodi—yw nad lle'r lleoliadau a gynhelir yn unig yw cynnig rhagoriaeth i'n dysgwyr ieuengaf. Yn wir, gwnaeth y prif arolygydd sylw ynglŷn ag ansawdd ein sector nas cynhelir, a'r ddarpariaeth nas cynhelir ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf yw un o gryfderau ein system.
Byddwch yn gwybod erbyn hyn, ac fe wnaethoch chi gyfeirio ato, ein bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod mwy o undod rhwng y cynnig gofal plant ochr yn ochr â chyfnod sylfaen, gyda chyfle ar gyfer cyd-leoli er mwyn ei gwneud hi mor rhwydd â phosib i rieni, a byddwch hefyd yn ymwybodol bod Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru nawr yn gweithio ar arolygiadau ar y cyd ar gyfer y sefydliadau hynny hefyd, sydd, rwy'n credu unwaith eto, yn well ffordd o symud ymlaen.
Os caf i droi at Siân Gwenllian, soniodd hi am atebolrwydd: ble mae atebolrwydd yn y system a gwaith pwy yw bod yn atebol? Wel, y gwir amdani yw bod cyfrifoldeb ar wahanol lefelau, ac felly y dylai hi fod. Mae atebolrwydd yn dechrau gydag atebolrwydd proffesiynol pob person unigol sy'n gweithio yn ein system addysg—yr atebolrwydd proffesiynol hwnnw sy'n ysgogi cymaint o'n haddysgwyr i sicrhau eu bod yn ymdrechu bob dydd i wneud gwaith gwych ar gyfer y plant y maen nhw'n gweithio â nhw. Mae'r llinell gyntaf o atebolrwydd, felly, ar ôl hynny, yn gorwedd gyda'n llywodraethwyr ysgol sydd, o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, yno i ddwyn i gyfrif uwch reolwyr eu hysgolion, y maen nhw'n eu llywodraethu. Wrth gwrs, mae gan ein consortia rhanbarthol, ein gwasanaethau gwella ysgolion ac awdurdodau addysg lleol gyfrifoldeb dros ysgolion unigol yn eu hardaloedd, ond hefyd ar sail ranbarthol. Mae Estyn yno i roi sicrwydd annibynnol ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn atebol am ansawdd y system yn ei chyfanrwydd.
Nawr, mae angen inni symud i sefyllfa lle mae Estyn yn rhoi mwy o gymorth ar gyfer gwella ysgolion pan fo Estyn wedi canfod ysgol nad yw mor dda ag y gallai fod. Gadewch i mi roi enghraifft i chi o pam mae hyn mor angenrheidiol. Rwy'n meddwl yn ôl am ysgol yn fy etholaeth i, a oedd yn cael ei hystyried, am flynyddoedd lawer, yn ysgol a oedd angen mesurau arbennig. Bob tro y daeth Estyn i'r ysgol honno, cafwyd adroddiad ganddyn nhw cyn iddyn nhw ddiflannu a dod yn ôl sawl mis yn ddiweddarach gyda grŵp o arolygwyr gwahanol yn gofyn i'r ysgol neidio drwy gyfres wahanol o gylchoedd. A phan oedd yr ysgol yn methu â gwneud hynny, aethant i ffwrdd unwaith eto, dim ond i ddod yn ôl fisoedd yn ddiweddarach gyda gwahanol grŵp o bobl unwaith eto. Nawr, nid dyna'r ffordd yr wyf i eisiau i'n Harolygiaeth ni ymddwyn. Mae angen inni gael Estyn, ein harolygwyr, o amgylch y bwrdd gyda'n gwasanaethau gwella ysgolion, gyda'n hawdurdodau addysg lleol, i greu cynllun ar gyfer yr ysgol honno ac i weithio gydag eraill i sicrhau bod y cynllun hwnnw yn cael ei gyflawni a bod yr ysgol honno yn symud allan o gategori yn gynt nag y mae rhai o'n hysgolion ni yn ei wneud ar hyn o bryd. Ac mae'n weledigaeth yr wyf i'n ei rhannu â'r Prif Arolygydd, oherwydd fy mod i'n credu bod gan Estyn fwy i'w wneud nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd.
O ran amlder arolygiadau, mae'r mater yn deillio o'r ffaith eich bod chi'n cael rhoi eich plentyn i mewn i'r system addysg yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y gall eich plentyn fynd drwy'r system addysg drwy ei yrfa'n gyfan gwbl heb fod yn destun arolygiad ysgol. Yr hyn a wyddom yw bod rhai ysgolion sydd mewn categori yn gallu gwella'n gyflym iawn, ond gwyddom hefyd y gall ysgolion da waethygu'n gyflym iawn, ac mae'r system hon a gynigir heddiw ac yr ymgynghorir arni yn y man yn gyfle inni roi gwell data amser real a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn eu hysgolion i rieni. Efallai nad yw Plaid Cymru eisiau—. Fe ddywedon nhw eu bod eisiau mwy o atebolrwydd—efallai nad yw Plaid Cymru eisiau'r atebolrwydd hwnnw, ond credaf fod rhieni eisiau gweld mwy o ddata mwy amserol a chyfredol ynghylch yr hyn sy'n mynd ymlaen yn ysgolion eu plant nag sydd ar gael ar hyn o bryd. Ac mae'n rhaid inni symud i ffwrdd—. Mae'n rhaid i Blaid Cymru gydnabod ein bod ni'n symud i fath gwahanol o system arolygu, ac rydym yn gwneud hyn i'n helpu ni i wneud yn siŵr bod ein plant i gyd yn cael addysg ardderchog.
A gaf i ddweud, ynghylch Caroline Jones—? Mae hi'n dweud bod gennym ni'r system waethaf yn y byd, ond rwy'n falch iawn ei bod hi wedi mynd ymlaen i egluro hynny drwy roi rhai enghreifftiau o ysgolion gwych yn ei rhanbarth ei hun sy'n gwneud gwaith da iawn. Mae hi'n dweud nad ydym ni'n gwneud digon dros ein myfyrwyr mwy galluog a thalentog. Rydym wedi cyflwyno rhaglen fwy galluog a thalentog, rydym yn ymestyn ein rhaglen Seren nid yn unig i fyfyrwyr chweched dosbarth a dysgwyr ôl-16, ond i ddysgwyr iau. Ac o ran adeiladau ysgolion, bydd band A, sy'n dod i ben, a band B, sydd i ddechrau cyn bo hir, yn gweld y buddsoddiad mwyaf yn ein rhaglen adeiladau ysgolion a cholegau ers y 1960au. A gaf i —
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn. Roeddwn yn gwrando ar yr hyn yr ydych newydd fod yn ei ddweud, yn arbennig ynghylch cyfraniad Caroline Jones. Rwyf yn dal i gredu nad ydych chi wedi rhoi ateb i ni pam mae gennym ni gymaint o ysgolion sy'n methu'n barhaus—a defnyddiaf 'methu' yn ystyriol. Mae carfan arbennig o ysgolion sydd dal yn methu â symud allan o fesurau arbennig ac ati, er gwaethaf blynyddoedd a blynyddoedd o ymyrraeth. Beth yw e?
Cytunaf â chi fod rhai ysgolion yn ymddangos yn y categorïau coch ac yng nghategorïau Estyn yn rhy aml, ac mae'n debyg y gallem ni i gyd, rhyngom, enwi'r ysgolion hynny, a dyna pam y cyfeiriais i yn fy araith at newid swyddogaeth Estyn fel nad ydyn nhw yno ddim ond i feirniadu—mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o'r cynllun gwella ysgolion hwnnw, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn fwy rhagweithiol o ran gwella ysgol na dim ond beirniadu—a pham yr wyf wedi dweud y byddwn yn adolygu sut y gallwn wneud ymyriadau mwy effeithiol ar gyfer yr ysgolion hynny, oherwydd nid yw'n iawn fod yr ysgolion hynny yn cael eu gadael yn y sefyllfaoedd hynny, weithiau am flynyddoedd. Mae'n rhaid inni fod â ffordd fwy effeithiol o symud yr ysgolion hynny yn gynt nag a wnawn ar hyn o bryd, ac fe wnes i gydnabod hynny yn fy araith agoriadol. Ac mae hynny'n ymwneud â herio awdurdodau lleol am eu pwerau ymyrraeth, a phan nad ydyn nhw'n barod i ddefnyddio'r pwerau ymyrraeth, yna naill ai cael gwared ar gyrff llywodraethu, cael gwared ar gyfundrefnau ariannol dirprwyedig neu gael ymyraethau eraill, yna bydd yn rhaid i ni, fel Llywodraeth Cymru, wneud hynny.
Os caf i gloi, oherwydd fy mod i ar fin rhedeg allan o amser. Yn fy araith i gloi roeddwn yn mynd i drafod, yn hytrach nag ymateb i gwestiynau, rai o'r materion a godwyd yn fy natganiad ysgrifenedig y prynhawn yma. Mae diwygiadau addysg sylweddol yn digwydd. Ni all Estyn ddianc rhag y diwygiadau hynny. Rwy'n falch fy mod yn gweithio gyda'r prif arolygydd i weithredu canfyddiadau adolygiad Graham Donaldson o arolygiaeth ddiwygiedig, sydd, rwy'n credu, yn hollbwysig i wireddu ein dyheadau i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i system addysg o'r radd flaenaf. Ond fel y dywed y prif arolygydd ei hun, Dirprwy Lywydd—a hoffwn pe byddai mwy o'n Haelodau wedi cydnabod hyn y prynhawn yma—mae llawer i ymfalchïo ynddo yn ein system.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Bydd yn rhaid i chi weiddi 'gwrthwynebu' yn gynt ac yn llawer uwch hefyd.
Iawn, felly symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio ar hyn.
Llywydd, dim ond i wneud sylw, mae fy system wedi torri am y trydydd tro heddiw, ac rwy'n hapus i bleidleisio â llaw.
Rwy'n cael ar ddeall o ffynhonnell ddibynadwy cyn belled â bod eich goleuadau'n gweithio pan fyddwn yn pleidleisio, nid oes angen y system arnoch. Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf nawr yn mynd i symud at y cyfnod pleidleisio.