Trafnidiaeth Eco-gyfeillgar

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:30, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â’r camau gweithredu cynaliadwy sydd eu hagen er mwyn lleihau allyriadau trafnidiaeth, er enghraifft, drwy waith ar ein cynllun Cymreig i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd, a'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddatgarboneiddio, a gadeirir gennyf, ac y mae'r Gweinidog hefyd yn aelod ohono.