1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith trafnidiaeth eco-gyfeillgar ar lefelau llygredd? OAQ53454
Diolch. Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â’r camau gweithredu cynaliadwy sydd eu hagen er mwyn lleihau allyriadau trafnidiaeth, er enghraifft, drwy waith ar ein cynllun Cymreig i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd, a'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddatgarboneiddio, a gadeirir gennyf, ac y mae'r Gweinidog hefyd yn aelod ohono.
Diolch, Weinidog, a chroesawaf y cyfle hwn i ofyn fy nghwestiwn cyntaf i chi yn y Siambr hon. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod lefelau llygredd plastig yn broblem fyd-eang, ond mae gan Gymru gyfle i arwain. Weithiau, mae angen inni hefyd edrych yn rhywle arall o ran sut rydym yn meddwl am drafnidiaeth mewn modd gwahanol. Yn Surabaya, y ddinas fwyaf ond un yn Indonesia, mae’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau wedi dod o hyd i ffordd wahanol o annog trigolion i ailgylchu gwastraff, gan roi teithiau bws am ddim i bobl yn gyfnewid am hen boteli plastig. O dan gynllun a lansiwyd gan Surabaya ym mis Ebrill, gall cymunedau ddefnyddio bysiau coch y ddinas drwy fynd â photeli plastig i derfynfeydd neu dalu'n uniongyrchol am docyn gyda photeli. Lywydd, mae tocyn bws dwy awr yn costio 10 cwpan plastig, neu hyd at bum potel blastig, yn dibynnu ar eu maint. Mae'r ddinas yn gobeithio cyflawni eu targed uchelgeisiol o ddod yn ddinas ddi-blastig erbyn 2020.
Wrth i’r Llywodraeth fuddsoddi yn nyfodol technoleg a thrafnidiaeth werdd, a wnaiff y Gweinidog hefyd drafod gyda Gweinidog yr economi, yn ogystal ag arweinwyr llywodraeth leol, sut y gallem efelychu system debyg yn y wlad hon mewn ardaloedd peilot yma, yn unol â Deddf cenedlaethau'r dyfodol?
Diolch. Yn sicr, mae’n fenter ddiddorol iawn. Cawsom sgwrs fywiog gyda swyddogion y bore yma yn ystod y cwestiynau llafar, a byddaf yn sicr yn trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Ken Skates. Credaf ei bod hefyd yn bwysig trafod hyn gyda'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, sy'n amlwg yn arwain ar y rhan honno o'r portffolio, ond hefyd, gydag arweinwyr llywodraeth leol.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Hannah Blythyn hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar rinweddau cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diod yn gynharach yr wythnos hon, ac mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar yr un pryd, ond yn amlwg, mae plastig yn faes lle rydym wedi gwneud yn dda o ran ein hailgylchu. Mae gennym gyfraddau uchel iawn o ailgylchu plastig, felly rydym am osgoi canlyniadau anfwriadol.
Fel y clywsom yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar drafnidiaeth, o dan gadeiryddiaeth Russell George, bysiau a cherbydau nwyddau trwm sy'n cyfrannu fwyaf at lygredd diesel. Ac er bod lorïau'n cael eu newid am rai newydd yn weddol aml, nid yw’r un peth yn wir am fysiau. Yn y gorffennol, rhoddodd Llywodraeth Cymru gryn dipyn o arian i Gyngor Abertawe tuag at system Nowcaster—nid wyf wedi sôn amdani ers tro, felly roeddwn yn meddwl y dylid ei chrybwyll—a hyd y gallwn ddweud—efallai y bydd rhywun yn fy nghywiro yma—nid yw wedi cael ei defnyddio i ailgyfeirio traffig ar unrhyw adeg. Felly, yn fy marn i, mae’n system sydd wedi methu. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi arian i helpu cynghorau i uwchraddio eu trafnidiaeth gyhoeddus, os mynnwch, a sicrhau ei bod yn fwy gwrth-lygredd, yn hytrach na buddsoddi yn y systemau monitro hyn nad yw'n ymddangos eu bod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth?
Mae'n sicr yn rhywbeth y buaswn yn fwy na pharod i’w drafod gyda fy nghyd-Aelod, Ken Skates.
Weinidog, fe sonioch chi am lefel y nitrogen deuocsid, ac fe fyddwch yn ymwybodol o astudiaeth yr Athro Paul Lewis ym Mhrifysgol Abertawe mewn perthynas â hyn—dengys ffigurau fod y lefelau’n uwch na’r terfynau diogel mewn 81 o 916 man, gan gynnwys wyth lle yn Sir Gaerfyrddin, gyda heol Felinfoel yn Llanelli yn un enghraifft. Pa werthusiad rydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud o gamau fel y terfynau 50 mya ar rai cefnffyrdd a rhannau o'r M4 ers eu cyflwyno? A ydym yn gallu gweld pa wahaniaeth y mae'r rheini'n ei wneud eto?
Pa drafodaethau diweddar a gawsoch gydag awdurdodau lleol i wella'r gwaith o fonitro lefelau llygredd, gan y byddwch yn ymwybodol fod rhai cymunedau'n poeni bod ganddynt lefelau a all fod yn beryglus, ond nad oes monitro'n digwydd yno. Ac a ydych wedi rhoi mwy o ystyriaeth i'r angen am Ddeddf aer glân newydd i Gymru?
Diolch. Mewn perthynas â’r pum ardal sydd gennym ledled Cymru o ran y cyfyngiad cyflymder 50 mya, mae hwn yn amlwg yn faes a arweinir gan Ken Skates, ond mae gennyf un yn fy etholaeth fy hun, a gwn eu bod yn cael eu monitro'n agos iawn, ond nid wyf yn gwybod a oes unrhyw ffigurau wedi’u cyflwyno hyd yn hyn. Nodwyd mai’r cyfyngiadau cyflymder yw’r unig fesur a fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth â gwerthoedd y terfynau nitrogen deuocsid cyn gynted â phosibl. Credaf fod angen inni gyfleu’r neges ychydig yn well. Yn sicr, o ran yr un yn Wrecsam, nid yw pobl yn deall pam ein bod wedi rhoi’r cyfyngiad 50 mya ar waith yno, pam nad oedd yn cael ei orfodi, ai diogelwch oedd ei ddiben, neu allyriadau. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod gennym arwyddion, ac mae hynny’n rhywbeth rwyf wedi bod yn ei drafod gyda fy swyddogion.
Fe ofynnoch chi am Ddeddf aer glân, ac unwaith eto, roedd hynny’n rhywbeth ym maniffesto’r Prif Weinidog newydd rwy’n bwriadu mynd i'r afael ag ef wrth i ni symud ymlaen drwy’r tymor hwn, gan edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol sydd gennym.