Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch. Soniais yn fy ateb gwreiddiol mai Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sydd â’r contract a'r cyfrifoldeb dros reoli a dosbarthu cyllid. Cafwyd nifer o geisiadau o'r ardal gyfagos, ond un cais yn unig a gafwyd o’ch etholaeth chi yn Islwyn yn ystod rownd 1. Yn anffodus, roedd y cais hwnnw'n aflwyddiannus. Mae un cais o Islwyn hefyd wedi'i gyflwyno yn rownd 2, ac mae’n mynd drwy'r broses asesu ar hyn o bryd. Rwy'n parhau i annog Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, fel y sefydliad sy’n cyflenwi, i ddarparu cyfle cyfartal i ymgeiswyr cymwys wneud cais i'r cynllun. Yn ôl y trafodaethau cynnar a gefais gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, roedd cryn dipyn o alw am y cynllun, ac maent wedi cadarnhau bod y ceisiadau o safon uchel iawn.