Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 20 Chwefror 2019.
Rydych wedi dechrau rhywbeth nawr, Weinidog. Nid wyf yn gwybod a oes gennych unrhyw ffigurau yn y ffeil honno sy'n berthnasol i fy etholaeth i hefyd—mae'n debyg y bydd Aelodau Cynulliad eraill yn gofyn yr un peth. Os nad oes gennych unrhyw ffigurau, naill ai yn awr neu'n hwyrach, buaswn yn gwerthfawrogi'n fawr os gallech gysylltu â mi ynglŷn â chyfraddau defnydd o’r cynllun yn fy ardal. O ran y cynllun cymunedol a'r manteision cyffredinol, mae hyn yn amlwg yn syniad da, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn y llwybr iawn ar ôl i'r dreth gwarediadau tir gael ei datganoli. A allech ddweud wrthym beth rydych yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun ledled Cymru mewn cymunedau? Oherwydd ymddengys i mi mai ychydig iawn o wybodaeth sydd gan bobl am y dreth gwarediadau tirlenwi ei hun, ac efallai y byddai mwy o geisiadau'n dod i law pe bai mwy o ymwybyddiaeth. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn os gallech ddweud ychydig mwy wrthym am hynny.