Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 20 Chwefror 2019.
Weinidog, fe sonioch chi am lefel y nitrogen deuocsid, ac fe fyddwch yn ymwybodol o astudiaeth yr Athro Paul Lewis ym Mhrifysgol Abertawe mewn perthynas â hyn—dengys ffigurau fod y lefelau’n uwch na’r terfynau diogel mewn 81 o 916 man, gan gynnwys wyth lle yn Sir Gaerfyrddin, gyda heol Felinfoel yn Llanelli yn un enghraifft. Pa werthusiad rydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud o gamau fel y terfynau 50 mya ar rai cefnffyrdd a rhannau o'r M4 ers eu cyflwyno? A ydym yn gallu gweld pa wahaniaeth y mae'r rheini'n ei wneud eto?
Pa drafodaethau diweddar a gawsoch gydag awdurdodau lleol i wella'r gwaith o fonitro lefelau llygredd, gan y byddwch yn ymwybodol fod rhai cymunedau'n poeni bod ganddynt lefelau a all fod yn beryglus, ond nad oes monitro'n digwydd yno. Ac a ydych wedi rhoi mwy o ystyriaeth i'r angen am Ddeddf aer glân newydd i Gymru?