Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 20 Chwefror 2019.
O edrych ar fy rhestr, nid yw'n ymddangos bod unrhyw geisiadau llwyddiannus wedi dod o Sir Fynwy; nid wyf yn gwybod a gafwyd unrhyw rai a oedd yn aflwyddiannus, ond buaswn yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar hynny, ac i ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink Fel y dywedais yn fy ateb i Rhianon Passmore, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sy'n gweithredu'r cynllun ar ein rhan. Maent yn ei hyrwyddo, maent yn ei hysbysebu, maent yn defnyddio ystod o fecanweithiau—gwn eu bod yn cynnal digwyddiadau penodol, mae ganddynt gylchlythyrau, maent yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Ac unwaith eto, cafwyd lefel uchel iawn o alw am y cynllun. Felly, credaf eu bod yn ei hyrwyddo mewn ffordd sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond wrth gwrs, gallwn wneud mwy bob amser, a byddaf yn sicr yn annog hynny.