Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:56, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi rhaglen allforio well gyda Hybu Cig Cymru. Felly, er enghraifft, mae Japan, yn amlwg, wedi agor eu marchnad i gig oen Cymru yn ddiweddar, felly gwn fod HCC yn gweithio yno. Rydym yn cefnogi teithiau masnach i leoedd fel Japan ac India. Felly, rwy'n sicrhau bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Credaf fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo cyn inni gael y refferendwm i adael yr UE. Credaf ein bod bob amser wedi bod yn chwilio am farchnadoedd newydd. Roeddwn yn Gulfood yn Dubai ychydig flynyddoedd yn ôl, lle roedd gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd gig oen o Gymru ar eu silffoedd. Felly, rwy'n credu bod y gwaith hwn wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd lawer.