Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:54, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch iawn o glywed hynny, a dyma'r math o siarad cadarnhaol rydym am ei glywed ar draws y Siambr, ac mae pa un a oes cytundeb ai peidio allan o'n dwylo ni, ond y realiti yw bod yn rhaid inni baratoi ar gyfer y canlyniadau os ceir un. A'r hyn rwy'n ei ddweud yw y ceir cyfleoedd enfawr hefyd, yn ogystal â'r anawsterau y byddai hynny'n eu hachosi i gynhyrchwyr wrth gwrs. Ond ceir marchnadoedd sy'n ehangu'n gyflym mewn rhannau eraill o'r byd, yn wahanol i Ewrop, sydd ag economi sy'n sefyll yn ei hunfan—ac ar drai yn wir—gan y bydd y rhan fwyaf o'r cyfandir mewn dirwasgiad cyn bo hir.

Yn y dwyrain canol, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar yn ehangu ein marchnadoedd. Yn 2013-14, nid oeddem ond yn gwerthu gwerth oddeutu £3 miliwn y flwyddyn o fwyd i'r dwyrain canol. Mae'r ffigur diweddaraf sydd gennyf ar gyfer 2017, ac roedd 10 gwaith yn fwy na hynny—£33 miliwn. Felly, mae'n amlwg fod cyfleoedd yno y gellir manteisio arnynt. Mae Tsieina yn farchnad enfawr, wrth gwrs. Cyn bo hir, bydd yn un o farchnadoedd mwyaf y byd. Mae Seland Newydd yn gwerthu mwy a mwy i Tsieina. £340 miliwn yn unig oedd allforion cynnyrch Seland Newydd i'r DU yn 2017. Maent bellach yn allforio mwy na theirgwaith hynny i Tsieina, ac mae'r ffigur yn cynyddu'n gyflym bob blwyddyn. Felly, beth y gallwn ei wneud i fanteisio ar allu gwerthu i farchnadoedd mewn rhannau eraill o'r byd, fel Tsieina, ac India yn wir, economi a oedd yn ehangu ar gyfradd o 8 y cant y llynedd, er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn i gynhyrchwyr Cymru?