Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:39, 20 Chwefror 2019

Diolch, Llywydd. Weinidog rŷn ni fater o wythnosau nawr o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac fel mae pethau'n sefyll, mae'n debyg y byddwn ni o bosib yn gadael heb gytundeb na chytundeb pontio hyd yn oed. Mae hyn wrth gwrs yn creu bygythiad clir iawn i'r amgylchedd yng Nghymru ac i'n hawliau ni fel dinasyddion. Oherwydd, hyd yn hyn, dŷn ni heb weld unrhyw gynigion gan Lywodraeth Cymru ar y strwythurau llywodraethiant amgylcheddol a fydd yn bodoli yng Nghymru ar ôl Brexit. Nawr, fe addawoch chi ymgynghoriad nôl yn yr haf y llynedd, wedyn yr hydref, wedyn yn y flwyddyn newydd. Rŷn ni nawr yn agosáu at ddiwedd Chwefror a dŷn ni'n dal i aros, ac, wrth gwrs, mae cloc Brexit yn dal i dician. Mae'r diffyg cynnydd yna yn sgandal, os caf i ddweud, ac, wrth gwrs, mi allai fod yn drychinebus i'r amgylchedd fan hyn yng Nghymru. A wnewch chi, felly, gadarnhau heddiw i'r Senedd yma pryd welwn ni yr ymgynghoriad hirddisgwyliedig yma ar lywodraethiant amgylcheddol yn ymddangos? A phryd fydd y Llywodraeth, o'r diwedd, yn amlinellu beth yw'ch bwriad chi o ran deddfu? A sut fyddwch chi yn cyflwyno cyfundrefn ar frys mewn sefyllfa o Frexit heb gytundeb?