Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 20 Chwefror 2019.
Wel, mae cryn ddiddordeb gennyf yn y defnydd o'r gair 'sgandal' ac efallai y byddai 'llythyr a ddatgelwyd heb ganiatâd' yn dod i'r meddwl, ar ôl edrych ar eich gwefan y bore yma—gwefan Plaid Cymru, nid yr Aelod ei hun. Ni chredaf fod hyn yn sgandal. Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â Brexit 'dim bargen'. Rwy’n cymryd y bygythiad hwnnw o ddifrif, a byddaf yn cynnal yr ymgynghoriad. Mae'n rhaid i chi dderbyn bod ein bwlch amgylcheddol yn wahanol iawn i unrhyw ran arall o'r DU oherwydd y ddeddfwriaeth rydym eisoes wedi’i rhoi ar waith, ond byddaf yn cynnal ymgynghoriad yn nes ymlaen y mis nesaf.