Trwyddedu ar gyfer Anifeiliaid sy'n Perfformio

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:05, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am y llythyr a anfonoch chi ataf yn ddiweddar ar fater a godwyd gan fy etholwr sy'n wynebu gorfod talu nid yn unig am ei thrwydded Gymreig ei hun, rhywbeth y mae'n fwy na pharod i'w wneud, ond hefyd £800 yn ychwanegol er mwyn gallu mynd â'i busnes i Loegr, sy'n rhywbeth y mae'n ei wneud yn rheolaidd. Nawr, mae hi—a llawer o bobl eraill sy'n gweithio yn y maes hwn—yn unig fasnachwr â throsiant isel iawn, ac os bydd yn rhaid iddi dalu'r swm ychwanegol hwn o £800 ar sail barhaus, ni fydd ei busnes yn hyfyw mwyach.

Rwy'n falch o'ch clywed yn dweud eich bod yn cynnal trafodaethau gyda Michael Gove ynglŷn â'r mater hwn, gan ei fod yn fater bach yn y darlun mawr ôl-Brexit, ond i fy etholwr, ac i eraill sy'n gweithio yn y maes hwnnw, mae'n fater difrifol iawn. Pa sicrwydd y gallwch ei roi inni? Tybiaf ei bod yn rhy hwyr bellach i ddatrys hyn erbyn y dyddiad cau ar gyfer eleni, 1 Ebrill, ond pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwr y bydd gennym rai trefniadau trawsffiniol o ryw fath ar waith erbyn y flwyddyn nesaf, ac na fydd yn rhaid iddi dalu ddwywaith i drwyddedu ei busnes?