Trwyddedu ar gyfer Anifeiliaid sy'n Perfformio

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:06, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae swyddogion yn dal i—. Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth a fu rhyngom, ac yn sicr, mae fy swyddogion yn parhau i gael y trafodaethau hynny â'u swyddogion cyfatebol—nid yn Llywodraeth y DU yn unig, ond yn yr Alban hefyd wrth gwrs, oherwydd mae'r busnesau hyn, fel y dywedwch, yn symudol o ran eu natur. Felly, ni allaf roi dyddiad ichi ynglŷn â phryd y daw'r trafodaethau hynny i ben, ond gobeithiaf na fydd yn cymryd blwyddyn i wneud hynny. Ond rydych yn llygad eich lle, ni chredaf y bydd ar waith gennym erbyn 1 Ebrill eleni.