Lleihau Llygredd ym Mhort Talbot

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:01, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Prifysgol Abertawe, ynghyd â phrifysgolion Warwick a Sheffield, yn cydweithio ar y prosiect newydd SUSTAIN hwn, a fydd yn defnyddio £35 miliwn o fuddsoddiad i leihau allyriadau o'r broses gynhyrchu dur ac yn cynyddu cynhyrchiant a swyddi, a chredaf y dylid croesawu'r cydweithrediad hwnnw'n fawr, rhywbeth a all leihau llygredd ar gyfer Tata Steel, a gobeithiaf y byddant hefyd, pan fyddant yn adeiladu eu gorsaf bŵer newydd, os bydd hynny'n digwydd, yn ymwybodol iawn o leihau llygredd gyda'r orsaf bŵer honno hefyd. Os yw prosiect SUSTAIN yn gwneud y cynnydd a ddisgwylir, pa gymorth uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ystyried ei roi iddo yn eich barn chi, yn enwedig ar ôl neu os newidir y rheolau cymorth gwladwriaethol wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd?