1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda rhanddeiliaid o ran lleihau llygredd ym Mhort Talbot? OAQ53462
Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas waith dda, gyda Gweinidogion a swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â rhanddeiliaid ym Mhort Talbot. Mae hyn yn cynnwys Tata Steel, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ein trafodaethau'n canolbwyntio ar reoli ansawdd aer yn yr ardal, camau gweithredu i leihau llygredd aer, a chyfathrebu gyda'r gymuned leol.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac yn amlwg, rydym wedi bod yn pryderu am ddau brif faes o ran y llygredd. Un yw allyriadau cerbydau, a byddaf yn codi'r mater hwnnw gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan fod hynny'n rhan o'i gylch gwaith ef ar hyn o bryd. Y maes arall, yn amlwg, yw allyriadau diwydiannol. Fel y dywedoch, rydych yn trafod gyda Tata, a hoffwn godi mater y llygredd a ddaw o Tata. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o bwysigrwydd Tata i economi'r dref a'r ardal, ond ar yr un pryd, mae angen iddynt fod yn gymydog cyfrifol i drigolion fy etholaeth. Pa drafodaethau y byddwch yn eu cael gyda Tata i sicrhau bod yr allyriadau a'r llygredd a welwn—? Ac mae preswylwyr yn cwyno wrthyf bob dydd eu bod yn golchi eu ceir, maent yn codi yn y bore, ac mae eu ceir wedi'u gorchuddio â llwch coch neu lwch du, eu tai, eu gerddi, silffoedd ffenestri, setiau patio—mae popeth yn cael ei lygru'n barhaus. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Tata i edrych ar sut y gallant leihau hynny i fy etholwyr, oherwydd, er nad yw'n cael ei ystyried yn un o'r llygryddion gwaethaf, gan mai llygryddion PM10 a PM2.5 yw'r gwaethaf, mae pobl yn dal i anadlu'r llwch hwn, maent yn dal i fyw yn llwch hwn, maent yn cario'r llwch hwn drwy eu tai, ac mae angen inni wneud rhywbeth i sicrhau y ceir llai ohono?
Diolch. Fel y dywedaf, mae swyddogion yn cael trafodaethau parhaus gyda Tata Steel. Gwn fod cynlluniau i Ken Skates a minnau ymweld ar y cyd i gael trafodaethau pellach gyda Tata Steel. Fe fyddwch yn gwybod am y gwaith monitro dwys sy'n mynd rhagddo yn yr ardal honno, a hyd yma eleni, gwn mai unwaith yn unig y cafodd y terfyn dyddiol ar gyfer deunydd gronynnol, sef PM10, ei groesi ar draws yr holl safleoedd monitro, ond wrth gwrs, mae un yn ormod ac rydym yn monitro hynny'n ofalus.
Mae Prifysgol Abertawe, ynghyd â phrifysgolion Warwick a Sheffield, yn cydweithio ar y prosiect newydd SUSTAIN hwn, a fydd yn defnyddio £35 miliwn o fuddsoddiad i leihau allyriadau o'r broses gynhyrchu dur ac yn cynyddu cynhyrchiant a swyddi, a chredaf y dylid croesawu'r cydweithrediad hwnnw'n fawr, rhywbeth a all leihau llygredd ar gyfer Tata Steel, a gobeithiaf y byddant hefyd, pan fyddant yn adeiladu eu gorsaf bŵer newydd, os bydd hynny'n digwydd, yn ymwybodol iawn o leihau llygredd gyda'r orsaf bŵer honno hefyd. Os yw prosiect SUSTAIN yn gwneud y cynnydd a ddisgwylir, pa gymorth uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ystyried ei roi iddo yn eich barn chi, yn enwedig ar ôl neu os newidir y rheolau cymorth gwladwriaethol wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd?
Nid wyf yn siŵr pa gymorth y gallem ei roi, ond buaswn yn fwy na pharod i ystyried hynny ac i ysgrifennu at yr Aelod.
Nawr, mae cynyddu'r defnydd o gerbydau trydan, yn breifat ac yn gyhoeddus, yn ffordd amlwg o leihau lefelau llygredd aer mewn ardaloedd fel Port Talbot, ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn feirniadol o'r cynnydd, neu'r diffyg cynnydd, yn hytrach, ar yr agenda hon, gan ddweud bod diffyg cyfeiriad cenedlaethol ac na chafwyd ymdrech gydunol gan Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol ar yr agenda hon. A ydych yn derbyn bod diffyg cynnydd wedi bod ar hyn, a hyd nes eich bod yn darparu'r cyfarwyddyd cenedlaethol hwnnw, bydd Port Talbot ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn parhau i ddioddef yn sgil problemau ansawdd aer?
Wel, credaf ein bod yn sicr wedi dangos arweiniad mewn perthynas â cherbydau trydan. Gwn inni roi—credaf inni roi oddeutu £2 filiwn o gyllid i'r holl awdurdodau lleol, rwy'n credu, ond fy nghyd-Aelod Ken Skates sy'n arwain ar hyn. Ond yn ôl yr hyn a gofiaf, credaf ein bod wedi rhoi oddeutu £2 filiwn i awdurdodau lleol er mwyn sbarduno, os mynnwch, rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn. Ond wrth gwrs, mae angen inni wneud mwy, ac yn amlwg, mae angen inni—. Yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Grid Cenedlaethol, er enghraifft, i sicrhau y byddai llwybr o'r fath o fannau gwefru cerbydau trydan yn gallu cael ei gynnal gan y capasiti presennol sydd gennym o fewn y grid.
Weinidog, nid llygredd aer yw'r unig beth sydd gennym i boeni amdano ym Mhort Talbot a fy rhanbarth ehangach. Mae llygryddion eraill hefyd yn cael effaith. Amlygodd adolygiad diweddar yng nghyfnodolyn Biological Conservation yr effaith roedd plaladdwyr yn ei chael ar rywogaethau infertebratau. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar ran corryn rafft y ffen sydd â'i gynefin yng nghysgod y gwaith dur, un o dri yn unig yn y DU, rwy'n bryderus ynghylch effaith plaladdwyr, a fydd yn bygwth diddymu'r rhywogaeth frodorol hon. Weinidog, pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i amddiffyn corryn rafft y ffen a phryfed eraill rhag plaladdwyr a llygryddion eraill?
Mae'n bwysig iawn ein bod yn diogelu pob math o bryfed, fel y dywedwch, ac yn sicr, mae gennym ganllawiau ar gyfer defnyddio plaladdwyr, a gwn fod ffermwyr yn ofalus iawn o ran y plaladdwyr y maent yn eu defnyddio, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda hwy i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r plaladdwyr y gellir eu defnyddio.