Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 20 Chwefror 2019.
Mae'r Aelod yn cyfeirio at benderfyniad masnachol a wnaed gan Sioe Frenhinol Cymru i ganiatáu i Lywodraeth y DU noddi'r tu allan i'r neuadd fwyd. Ni fydd hynny'n digwydd eto eleni; gallaf roi sicrwydd i chi ynglŷn â hynny. Mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt ynghylch labelu cynnyrch Cymru yn y ffordd honno. Yn sicr, credaf fod y rhan fwyaf o'r cwmnïau rwy'n gweithio gyda hwy yn teimlo ei bod yn fantais enfawr. Maent yn teimlo ei bod yn hawdd iawn gwerthu bwyd a diod gyda'r brand hwnnw arno.