Y Sector Cig Coch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:11, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cydnabod y bydd cig oen, yn wir, yn wynebu heriau sylweddol, yn enwedig mewn Brexit 'dim bargen'. Roeddwn yn falch iawn gydag ymweliad ein pwyllgor Brexit â Brwsel dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Cawsom gyfarfod â llysgennad Seland Newydd yno a chawsom sgyrsiau adeiladol, a deallaf ei fod hefyd bellach wedi bod yn trafod gyda'r sector cig oen yng Nghymru. Fodd bynnag, a wnaiff y Gweinidog roi mwy o ystyriaeth i'r sector cig eidion? Oherwydd, pe baem yn gadael yr UE heb gytundeb ac yn gosod tariffau ar allforion Iwerddon i'r DU, sydd mor sylweddol, byddai hynny'n gadael cyfle mawr iawn i ffermwyr cig eidion, ac yn wir, ffermwyr llaeth yng Nghymru gynyddu eu cynhyrchiant yn broffidiol er mwyn llenwi'r bwlch hwnnw.