Cyfraddau Plannu Coed

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:12, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflymu'r broses o greu coetiroedd yng Nghymru, ac rwy'n ymwybodol fod angen gwneud mwy i annog hyn. Rwyf wedi cytuno i rownd arall o gyllid creu coetiroedd Glastir. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i goedwigaeth yng Nghymru ym mis Mawrth.