Cyfraddau Plannu Coed

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:13, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yr wythnos diwethaf, aeth plant ledled y DU ar streic i alw am weithredu ar newid hinsawdd. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cydnabod y rôl hynod bwysig y mae coetiroedd yn ei chwarae yn natblygiad cynaliadwy ein hadnoddau naturiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i isafswm o 15.8 y cant o gynnydd mewn gorchudd coetir erbyn 2030. Er mwyn cyrraedd y targed cyfreithiol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae pwyllgor y DU ar y newid hinsawdd yn argymell y dylid plannu 4,000 hectar o goed bob blwyddyn erbyn 2030. Byddai hyn yn cynyddu gorchudd coetir yng Nghymru i 16.7 y cant. Heb os, mae arnom angen mwy o goed mewn amgylcheddau trefol a gwledig ledled Cymru. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau plannu coed?