Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 20 Chwefror 2019.
Credaf eich bod yn llygad eich lle ynghylch budd y cyhoedd. Mewn rhai ffyrdd, credaf fod mwy o ddiddordeb cyhoeddus mewn arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid nag mewn syrcasau, gan nad oes gennym unrhyw syrcasau wedi'u cofrestru yng Nghymru. Ac fel y dywedwch, mae pob un ohonom wedi bod mewn sioeau amaethyddol. Mae adar ysglyfaethus yn aml yn mynd i ysgolion, er enghraifft, ac felly credaf fod hyn o ddiddordeb i'r cyhoedd, ac yn sicr, pan gawsom yr ymgynghoriad, roedd nifer fawr o'r ymatebion yn ymwneud â'r agwedd hon.
Mae'r cynllun trwyddedu yn cael ei ddatblygu. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi ymgysylltu â'r rhanddeiliaid, yn ogystal ag asiantau gorfodi. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn, gan y credaf fod angen gwneud hynny a bydd hynny'n digwydd, gobeithio, o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Ond fe fyddwch yn deall, unwaith eto, fod yn rhaid rhoi'r flaenoriaeth i Brexit—yn enwedig Brexit 'dim bargen'—ond gobeithiaf y bydd yr ymgynghoriad, yn sicr, yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd yr haf.