Trwyddedu ar gyfer Anifeiliaid sy'n Perfformio

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:07, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, credaf fod y maes hwn o bolisi cyhoeddus yn haeddu llawer o sylw a bod angen ei gyflymu. Cafwyd eich ateb ysgrifenedig cyntaf, neu ddatganiad ysgrifenedig, ym mis Rhagfyr 2016, felly, mae hynny ymhell dros ddwy flynedd yn ôl. Mae'r cyhoedd yn mynnu gweld gweithredu yn hyn o beth, gan nad yw hyn yn ymwneud yn unig ag anifeiliaid syrcas. Mae pob un ohonom wedi bod mewn sioeau amaethyddol ac wedi gweld yr adar ysglyfaethus yno, ac adeg y Nadolig, rydych yn aml yn gweld ceirw ar y strydoedd mewn arddangosfeydd teithiol. A chredaf fod angen eglurder, ac o ran y rheini sy'n defnyddio anifeiliaid, os gallant wneud hynny heb greulondeb a heb fod yr anifeiliaid hynny'n colli unrhyw fath o urddas, yna gall fod yn addas. Ond mae'n rhaid inni ddod i gasgliad ynglŷn â hyn a datgan beth yw ein nodau polisi ar gyfer rheoleiddio.