Cyfraddau Plannu Coed

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:14, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedaf, gwn fod angen inni wneud mwy o lawer o ran plannu coed, ac rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe fyddwch yn gwybod am ein camau gweithredu ar ymaddasu i newid hinsawdd—fe'u disgrifir yn ein strategaeth ar newid hinsawdd yng Nghymru. Ac mae gan greu coetiroedd, gan gynnwys y gwyrddu trefol y cyfeirioch chi ato, rôl bwysig iawn i'w chwarae i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd. Felly, byddwn yn ymgorffori hynny yn y rôl y gall rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gynaliadwy ei chwarae yn eu gwaith datgarboneiddio. Soniais fy mod wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos diwethaf, ac yn sicr, mae ganddynt dir a fydd ar gael ar gyfer plannu coed, felly rwyf am weithio gyda hwy i weld sut y gellir troi peth o'r tir hwnnw yn goetir—dros y flwyddyn nesaf, gobeithio.