Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 20 Chwefror 2019.
Ddirprwy Weinidog, mae eich Llywodraeth eich hun yn amcangyfrif bod angen adeiladu oddeutu 8,300 o gartrefi bob blwyddyn, ac yn ôl Ffederasiwn Meistr Adeiladwyr Cymru, 6,000 yn unig a adeiladwyd y llynedd. Nawr, mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn dweud bod y broses gynllunio yn rhy gymhleth ac yn rhy ddrud, a bod tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod y farchnad dai wedi cael ei dominyddu gan nifer fach o gwmnïau mawr iawn. Maent wedi amcangyfrif bod oddeutu tri chwarter yr holl dai newydd yn cael eu hadeiladu gan bum cwmni mawr. Er mwyn i chi allu cyflawni eich targedau a rhoi mwy o gyfleoedd i gwmnïau llai Cymru, a wnewch chi adolygu'r canllawiau a roddir i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y broses gynllunio yn llai cymhleth ac yn llai costus, fel y gall busnesau llai adeiladu mwy o gartrefi newydd?