2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu rhagor o gartrefi? OAQ53435
Mae darparu cartrefi ychwanegol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, fel y nodir yn y strategaeth genedlaethol. Rydym yn defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni er mwyn annog adeiladu tai ac rydym yn buddsoddi mwy nag erioed mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Ddirprwy Weinidog, mae eich Llywodraeth eich hun yn amcangyfrif bod angen adeiladu oddeutu 8,300 o gartrefi bob blwyddyn, ac yn ôl Ffederasiwn Meistr Adeiladwyr Cymru, 6,000 yn unig a adeiladwyd y llynedd. Nawr, mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn dweud bod y broses gynllunio yn rhy gymhleth ac yn rhy ddrud, a bod tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod y farchnad dai wedi cael ei dominyddu gan nifer fach o gwmnïau mawr iawn. Maent wedi amcangyfrif bod oddeutu tri chwarter yr holl dai newydd yn cael eu hadeiladu gan bum cwmni mawr. Er mwyn i chi allu cyflawni eich targedau a rhoi mwy o gyfleoedd i gwmnïau llai Cymru, a wnewch chi adolygu'r canllawiau a roddir i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y broses gynllunio yn llai cymhleth ac yn llai costus, fel y gall busnesau llai adeiladu mwy o gartrefi newydd?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod polisi cynllunio cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Cymru eisoes wedi'i gyhoeddi, gyda'r bwriad o helpu i fynd i'r afael â materion cyflenwi tai drwy gyflwyno mwy o drylwyredd a her i'r broses o wneud cynlluniau mewn perthynas â dyrannu safleoedd tai. Cyfarfu'r Gweinidog a minnau â'r ffederasiwn yn ddiweddar, i drafod y pryderon a godwyd gennych, ond hefyd, mewn gwirionedd, rydym yn cymryd camau fel Llywodraeth i sicrhau ein bod yn helpu i gefnogi'r busnesau bach a chanolig hyn, yn enwedig y rheini sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, i allu cydweithio gyda ni i gyflawni ein targedau uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi newydd. Un o'r cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog i'n helpu i wneud hyn yw prosiect Hunanadeiladu Cymru, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau cyfunol blaenorol o ran cynllunio, cyllid a mynediad, ac yn agor y farchnad i fwy o fusnesau bach a chanolig yn y broses.
Gwyddom fod adeiladwyr tai mawr yn elwa o brinder tai gan fod hynny'n cynyddu'r prisiau y gallant eu codi am adeiladau newydd. Ac fel yr amlinellodd Paul Davies, mae gennym nifer fach o adeiladwyr mawr iawn sy'n dominyddu'r farchnad. Un dull o gynyddu'r cyflenwad tai yw hunanadeiladu a hunanreoli gwaith adeiladu. A wnaiff y Llywodraeth ofyn i awdurdodau lleol nodi safleoedd, y tu allan i'r cynlluniau datblygu lleol, ar gyfer pump neu lai o anheddau y gellir naill ai eu hunanadeiladu neu lle gellir hunanreoli'r gwaith adeiladau fel y gallwn sicrhau bod tai'n cael eu defnyddio, helpu adeiladwyr bach a helpu pobl i ddod yn berchnogion cartrefi?
Diolch am eich cwestiwn, Mike Hedges. Rydych yn gwneud pwyntiau dilys a diddorol iawn. Fel rwyf wedi'i grybwyll eisoes, mae'r fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru', yn benodol, yn ei gwneud yn ofynnol yn awr i awdurdodau cynllunio lleol gadw cofrestr o safleoedd bach. Ac fel y soniais eisoes, rydym wedi cyhoeddi £40 miliwn i gefnogi cynlluniau Hunanadeiladu Cymru newydd ac arloesol, ac yn rhan o hynny, mae swyddogion yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar hyn o bryd i nodi safleoedd addas ar gyfer hunanadeiladu, ar y raddfa a grybwyllwyd gennych yn eich cwestiwn o bosibl. Yn amlwg, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu pa safleoedd a gyflwynir ar gyfer y cynllun, ond mae'r Gweinidog a minnau'n edrych ymlaen at weld y safleoedd hynny'n dechrau dod i'r amlwg dros y misoedd nesaf.
Ddirprwy Weinidog, credaf fod rhai mesurau allweddol y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â'n hanghenion tai nad ydynt yn cynnwys gorfod adeiladu cartrefi newydd, ac un enghraifft o'r fath yw cynlluniau cyngor Rhondda Cynon Taf i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Mae 312 o geisiadau grant eiddo gwag wedi dod i law ers i'r cynllun ddechrau yn 2016, a hyd yma, mae 128 o'r cartrefi hynny bellach wedi dod yn ôl i ddefnydd llawn, gyda £2.4 miliwn yn cael ei wario drwy'r grant eiddo gwag. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod y math hwn o gynllun yn darparu ffordd gynaliadwy iawn o fynd i'r afael â'r prinder tai, ac a oes unrhyw gynlluniau i sicrhau y gall awdurdodau lleol eraill ddysgu o'r arfer gorau hwn?
Diolch, Vikki Howells. Yn sicr, croesawaf ymdrechion a gwaith Rhondda Cynon Taf ac awdurdodau eraill o ran sut rydym yn creu cartrefi newydd drwy ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd. Ac mae'n rhywbeth rwy'n teimlo'n arbennig o angerddol yn ei gylch yn fy rôl arweiniol mewn perthynas ag adfywio, sut y gallwn gysylltu hynny mewn modd cyfannol, nid yn unig adfywio ac adfywhau cymuned a chanol y dref, ond mynd i'r afael ag anghenion tai a'r angen am dai gweddus hefyd yn y broses.
Gwyddom fod llawer o resymau pam fod cartrefi'n wag, felly mae angen sicrhau bod amrywiaeth o offer ar gael i ddod â hwy yn ôl i ddefnydd. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio sut y gallem gynorthwyo awdurdodau lleol yn well i ddefnyddio eu pwerau gorfodi i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, ac yn sicr, credaf fod hwn yn faes lle gallwn ychwanegu mwy o werth.