Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:26, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r Aelod yn llygad ei lle, yn enwedig yn CEM Caerdydd, o ran yr effaith y gall dedfrydau tymor byr ei chael, yn enwedig y 56 diwrnod, oherwydd os ydych yn y carchar am gyfnod byr iawn, mae'n gyfnod digon byr i gael effaith ar eich llety blaenorol, a llety eich teulu o bosibl. Ac a dweud y gwir, mae'n her i sicrhau bod y llety cywir ar gael wedi hynny. Mae'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar fynd i'r afael â hyn fel mater o frys.