Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 20 Chwefror 2019.
Ar yr un pwnc, Weinidog, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar garcharorion o'r categori angen blaenoriaethol, a bod protocol wedi'i roi ar waith wedyn a ddylai fod wedi cysylltu sefydliadau ac asiantaethau er mwyn sicrhau bod gan garcharorion do uwch eu pennau wrth gael eu rhyddhau, ymddengys nad yw hynny'n gweithio'n dda iawn, o ystyried yr ystadegau y cyfeiriodd Leanne Wood atynt. Tybed, bellach, yn y sefyllfa hon, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych eto ar sefyllfa pobl sy'n gadael carchar, o gofio'r goblygiadau amlwg i'w hiechyd a'u lles os ydynt yn cysgu allan a heb gartref diogel, yn ogystal â'r effaith ar aildroseddu.