Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:28, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i John? Gwn fod gan yr Aelod, yn ei rôl fel Cadeirydd y pwyllgor, gryn ddiddordeb yn y maes hwn. Gwnaethoch bwyntiau tebyg iawn i'r rhai a wnaeth Leanne. Cyfeiriaf yn ôl at yr adroddiad yr wythnos diwethaf gan y bwrdd monitro annibynnol ar gyfer CEM Caerdydd, a oedd yn cynnwys canfyddiadau llwm iawn. Rydym yn cydnabod bod problem benodol yn CEM Caerdydd gyda lefelau uchel o ddedfrydau byr, a'r effaith a gaiff hynny. Fodd bynnag, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn y Siambr yr wythnos diwethaf, rydym yn disgwyl gweld gwelliannau yn safonau a chapasiti'r cwmnïau adsefydlu cymunedol, sy'n darparu gwasanaethau adsefydlu ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, ac rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol yn y maes drwy'r grant atal digartrefedd. Yn sicr, rydym yn cydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod er mwyn sicrhau bod yr adolygiad a wnawn o angen blaenoriaethol yn arwain at welliannau yn y maes hwn.