Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 20 Chwefror 2019.
Rwy'n falch eich bod yn gweld bod hyn yn broblem, a gobeithio y gallwn gael datganiad gennych ar hyn maes o law efallai, a gweld beth yw barn eich adran ar hyn, gan y credaf ei fod yn rhywbeth sy'n peri pryder i gymunedau presennol pan fydd datblygiadau mawr newydd yn cael eu hadeiladu ac nid yw'r pethau hyn a addawyd ar waith ganddynt. Gall anghenion tai ar raddfa fawr fod yn heriol i'r amgylchedd. Roeddem yn sôn yn gynharach, mewn ymateb i gwestiwn gan Mike Hedges, ynglŷn â datblygiadau ar raddfa fach. Roedd Mike yn sôn am hunanadeiladu yn benodol. Nid wyf am eich holi ynglŷn â'r mater penodol hwnnw, gan ein bod wedi trafod hynny, ond i ba raddau y dylid cael rhagdybiaeth yn gyffredinol, yn y dyfodol, o blaid datblygiadau tir llwyd?